Mater - cyfarfodydd

PENTRE AWEL

Cyfarfod: 21/09/2020 - Cabinet (eitem 13)

PENTRE AWEL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn sgil cynnal prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod 12 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad am ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig ynghylch materion ariannol neu faterion busnes unrhyw unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).

 

Mae'r adroddiad yn cynnwys manylion am bartneriaid academaidd posibl nad ydynt hyd yma wedi llofnodi memoranda cyd-ddealltwriaeth gyda'r Awdurdod. Er y byddai'r budd i'r cyhoedd fel rheol yn ffafrio tryloywder a diffuantrwydd, roedd y budd i'r cyhoedd o ran cadw cyfrinachedd yn yr achos hwn hyd nes i'r memoranda cyd-ddealltwriaeth gael ei lofnodi yn drech na hynny.

 

Rhoddodd y Bwrdd Gweithredol ystyriaeth i adroddiad ynghylch Pentre Awel mewn perthynas â chyflwyno achos busnes y Fargen Ddinesig, cytundebau â phartneriaid academaidd a datblygu dyluniad cam 1.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR:

 

13.1

Cymeradwyo'r achos busnes terfynol (fel yr atodir yn atodiad 1) i'w gyflwyno'n ffurfiol i Gyd-bwyllgor Dinas-ranbarth Bae Abertawe i'w gymeradwyo i'w gyflwyno i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.

13.2

Cymeradwyo a llofnodi'r memorandwm cyd-ddealltwriaeth â phartneriaid academaidd. Nodi bod y trafodaethau hyn yn cyd-fynd â'r cynllunio cyffredinol ar gyfer addysg, sgiliau a hyfforddiant.

13.3

Cymeradwyo cwblhad gwaith datblygu dyluniadau manwl ac allbynnau RIBA Cam 3.