Mater - cyfarfodydd

DIWEDDARU RHAGLEN GYFALAF 2020-21

Cyfarfod: 21/09/2020 - Cabinet (eitem 9)

9 DIWEDDARU RHAGLEN GYFALAF 2020-21 pdf eicon PDF 91 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf o ran sefyllfa'r gyllideb ar gyfer rhaglen gyfalaf 2020/21 ar 30 Mehefin, 2020.

 

Yn adrannol rhagwelwyd gwariant net o £69,816k o gymharu â chyllideb net weithredol o £114,079k gan roi £44,263k o amrywiant.

 

Roedd y gyllideb net yn cynnwys rhaglen wreiddiol y Cyfrif Refeniw Tai a'r Gronfa Gyffredinol, a gymeradwywyd gan y Cyngor ar 3 Mawrth, llithriad o 2019/20, prosiectau newydd a gymeradwywyd gan y Bwrdd Gweithredol ar 29 Mehefin 2020 a chyllidebau yn ymwneud ag ysbytai maes sy'n ymateb i Covid-19.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

 

9.1       Derbyn adroddiad diweddaru'r rhaglen gyfalaf.

9.2       Cymeradwyo'r trosglwyddiadau y manylir arnynt yn yr adroddiad.