RHAGLEN MODERNEIDDIO YSGOLION PARTNERIAETH ADDYSG GYMRAEG MODEL BUDDSODDI CYDFUDDIANOL YSGOLION 21AIN GANRIF - CYTUNDEB PARTNERU STRATEGOL
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Yn sgil cynnal prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod 12 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad am ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig ynghylch materion ariannol neu faterion busnes unrhyw unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 ac 16 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).
Er y byddai'r prawf budd i'r cyhoedd fel rheol yn ffafrio tryloywder a diffuantrwydd, roedd y budd i'r cyhoedd o gadw cyfrinachedd yn drech yn yr achos hwn (i) er mwyn diogelu buddiannau masnachol y cynigydd / cwmni a ffefrir; (ii) er mwyn amddiffyn buddiannau’r Awdurdod a’r Cyfranogwyr eraill mewn cysylltiad â’r cyngor cyfreithiol a roddwyd iddynt mewn cysylltiad â’r dogfennau hyn.
Rhoddodd y Bwrdd Gweithredol ystyriaeth i adroddiad ynghylch Partneriaeth Addysg Ysgolion yr 21ain Ganrif Model Buddsoddi Cydfuddiannol - Cytundeb Partneriaethau Strategol.
Dywedwyd wrth y Bwrdd Gweithredol, gyda chytundeb Cadeiryddion y Pwyllgor Craffu - Addysg a Phlant a'r Pwyllgor Craffu - Polisi ac Adnoddau, o dan Erthygl 6.7 o'r Cyfansoddiad, bod y cyfnod galw wedi'i hepgor. Roedd hyn er mwyn galluogi'r Awdurdod i fodloni'r dyddiad cau a bennwyd gan Lywodraeth Cymru.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:
14.1 |
Nodi cynnydd y Cam Cynigydd a Ffefrir yn y Weithdrefn Deialog Gystadleuol o dan Reoliadau Contractau Cyhoeddus 2015 fel yr amlinellir yn yr adroddiad hwn; |
14.2 |
Cymeradwyo cyflawni, cyflwyno a pherfformio'r Cytundeb Partneriaethau Strategol gyda Chwmni Partneriaeth Addysg Cymru ym mis Medi 2020 i hwyluso'r broses o ddarparu ystod o wasanaethau seilwaith a darparu cyfleusterau addysg a chymunedol; |
14.3 |
Cymeradwyo'r Cytundeb Partneriaethau Strategol yn Atodiad A eithriedig yr adroddiad hwn ac a grynhowyd yn Atodiad 1 yr adroddiad hwn er mwyn cyflawni argymhelliad (b); |
14.4 |
Nodi y bydd y Cytundeb Partneriaethau Strategol yn cael ei gyflawni fel gweithred a'i ardystio yn unol ag Erthygl 13.5 o'r Cyfansoddiad; |
14.5 |
Cymeradwyo penodi Simon Davies yn ‘Gynrychiolydd Cyfranogwyr’ i eistedd ar y Bwrdd Partneriaeth Strategol; |
14.6 |
Nodi, wrth gytuno i'r Cytundeb Partneriaethau Strategol, na ofynnir iddo benderfynu bwrw ymlaen ag unrhyw Brosiect ar hyn o bryd. Bydd unrhyw argymhelliad i fwrw ymlaen â Phrosiect yn cael ei adrodd yn ôl i'r Bwrdd Gweithredol mewn adroddiad(au) yn y dyfodol i'w benderfynu. |