Mater - cyfarfodydd

EFFAITH CYFYNGIADAU SYMUD COVID-19 AR ANSAWDD AER YN SIR GAERFYRDDIN

Cyfarfod: 21/09/2020 - Cabinet (eitem 7)

7 EFFAITH CYFYNGIADAU SYMUD COVID-19 AR ANSAWDD AER YN SIR GAERFYRDDIN pdf eicon PDF 101 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[Noder: Gan fod y Cynghorydd P. Hughes-Griffiths wedi datgan buddiant yn y mater hwn yn gynharach, nid oedd wedi cymryd rhan yn y broses o ystyried y mater a phenderfynu arno].

 

Rhoddodd y Bwrdd ystyriaeth i adroddiad yn manylu ar effaith cyfyngiadau symud Covid-19 ar ansawdd aer yn Sir Gaerfyrddin.

 

Arweiniodd y cyfyngiadau symud at ostyngiad sylweddol yn nifer y cerbydau ar y ffyrdd a gwelliant yn ansawdd yr aer.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

 

7.1       Ymrwymo i beidio ag annog siwrneiau nad ydynt yn hanfodol o dan y trefniadau ‘normal newydd’ trwy ehangu ar bolisïau presennol sy’n ymwneud â gweithio gartref a gweithio ystwyth, pan ellir gwneud y gwaith yn effeithiol naill ai gartref neu mewn swyddfa agosach a mwy cyfleus.

7.2       Annog staff i ystyried defnyddio technegau digidol nad ydynt yn gysylltiedig â theithio fel yr opsiwn cyntaf a ffefrir (lle bo hynny'n bosibl) at ddibenion cyfarfodydd a hyfforddiant.