6 PENODI UWCH-GRWNER DROS DRO AWDURDODAETH SIR BENFRO A SIR GAERFYRDDIN PDF 114 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Rhoddodd y Bwrdd ystyriaeth i adroddiad yn manylu ar y cynnig i benodi Mr Paul Bennett fel yr Uwch-grwner dros dro ar gyfer awdurdodaeth Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro yn dilyn ymddiswyddiad Mr Mark Layton ar 31 Mai, 2020.
Nodwyd bod gan y ddau Gyngor, ar y cyd â'r Prif Grwner a'r Arglwydd Ganghellor/y Weinyddiaeth Gyfiawnder, rwymedigaeth gyfreithiol i sicrhau bod gan yr awdurdodaeth drefniadau gwasanaeth crwner effeithiol ar waith gydag adnoddau digonol.
Fodd bynnag, wrth benodi dros dro, o dan Ddeddf Crwneriaid a Chyfiawnder 2009, roedd y Prif Grwner ac Adran yr Arglwydd Ganghellor/y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn ei gwneud yn ofynnol i'r ddau Gyngor ystyried yn gyntaf a ddylid cyfuno'r awdurdodaeth ag ardal Crwner arall cyn penodi Uwch-grwner parhaol.
Ni fyddai caniatâd i benodi Uwch-grwner parhaol yn cael ei roi hyd nes bod y mater o gyfuno ardaloedd crwneriaid yn cael ystyriaeth lawn, gan arwain at yr angen am benodiad dros dro.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:
6.1 Cymeradwyo penodi Mr Paul Bennett fel Uwch-grwner dros dro ar 1 Mehefin 2020 ar gyfer awdurdodaeth Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro.
6.2 Awdurdodi'r camau angenrheidiol sy'n ofynnol i fynd i'r afael â chyfuno Ardal Crwner Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin ag Ardal Crwner arall yn ôl yr angen ac yn unol â chyfarwyddiadau'r Prif Grwner, yr Arglwydd Ganghellor/y Weinyddiaeth Gyfiawnder.