Mater - cyfarfodydd

CALENDR HYRWYDDO CYDRADDOLDEB A’R PROTOCOL BANERI A GOLEUO

Cyfarfod: 07/09/2020 - Cabinet (eitem 7)

7 CALENDR HYRWYDDO CYDRADDOLDEB A’R PROTOCOL BANERI A GOLEUO pdf eicon PDF 146 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad ar y bwriad o gyflwyno Calendr Hyrwyddo Cydraddoldeb, ynghyd â chalendr posibl ar gyfer 2020/21. Nod y calendr oedd darparu diwrnodau safonol ac awdurdodedig allweddol i ddathlu cydraddoldeb ac amrywiaeth gan roi llwyfan ar gyfer cyfathrebu mewnol ac allanol ar draws yr holl nodweddion gwarchodedig yn Neddf Cydraddoldeb 2010, fel y nodir yn yr adroddiad.

 

Nodwyd bod cael calendr pwrpasol o ddiwrnodau dynodedig / dathlu yn gyfle i hyrwyddo cydraddoldeb a meithrin cysylltiadau da rhwng grwpiau gwarchodedig ac osgoi'r angen i ystyried gwahanol geisiadau unigol am gymorth a allai arwain at ddiffyg cynrychiolaeth o'r grwpiau gwarchodedig, gan na fyddai gan yr holl nodweddion gwarchodedig symbolau/fflagiau i'w harddangos. Pe bai'n cael ei fabwysiadu, byddai'r protocol yn cael ei adolygu'n barhaus, o leiaf unwaith y flwyddyn, mewn trafodaeth ag Aelod Gweithredol y Bwrdd dros Gydraddoldeb a byddai Arweinydd y Cyngor yn cytuno ar unrhyw ychwanegiadau i'r calendr, mewn ymgynghoriad â holl arweinwyr y grwpiau.

 

Bu'r Bwrdd Gweithredol hefyd yn ystyried protocol diwygiedig ar gyfer Baneri a Goleuo Adeiladau i adlewyrchu gofynion y Calendr Hyrwyddo Cydraddoldeb (yn amodol ar gymeradwyaeth y Calendr). Roedd y protocol yn amlinellu'r trefniadau ar gyfer dyddiadau dynodedig ar gyfer chwifio baneri (fel y nodwyd gan yr Adran Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon), dyddiadau chwifio baneri y cytunwyd arnynt yn lleol a'r broses ar gyfer gofyn am ddyddiadau/digwyddiadau ychwanegol ar gyfer chwifio baneri neu oleuo Adeiladau'r Cyngor.

 

Dywedwyd wrth y Bwrdd Gweithredol, er eglurder, pe bai sefydliad yn dathlu digwyddiad dros gyfnod, er enghraifft un mis, dim ond ar ddechrau'r digwyddiad y byddai baneri/goleuo Adeiladau Sirol yn digwydd e.e. y diwrnod cyntaf neu dros y penwythnos ond nid ar gyfer cyfnod cyfan y digwyddiad. Yn ogystal, byddai angen rhoi gwybod i ymgeiswyr sy'n gofyn am oleuo adeiladau'r cyngor yn ystod misoedd yr haf ynghylch pa mor drawiadol fyddai hyn yn ystod cyfnod pan fo golau dydd yn parhau'n hirach a’r nos yn fyrrach. Cytunodd y Bwrdd Gweithredol y byddai geiriad y protocol yn cael ei newid i adlewyrchu'r pwyntiau uchod.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL AR Y CANLYNOL:

7.1

Cytuno ar y Calendr Hyrwyddo Cydraddoldeb safonol ar gyfer Cyngor Sir Caerfyrddin am y flwyddyn;

7.2

Cytuno ar y sianeli cyfathrebu a hyrwyddo allweddol yn y calendr;

7.3

Cytuno ar y Protocol Baneri a Goleuo Adeiladau diwygiedig