6 CYNLLUN DIGARTREFEDD TROSIANNOL PDF 288 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Dywedwyd wrth y Bwrdd Gweithredol fod Llywodraeth Cymru, yn dilyn achosion o Covid-19, wedi ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod tai lleol yng Nghymru, waeth beth fo hanes blaenorol y cleient, ddarparu llety dros dro ac ailgartrefu'r holl bobl sengl sy'n cyflwyno eu hunain yn ddigartref, gan gynnwys y rhai sy'n gadael y carchar. Roedd Llywodraeth Cymru yn cydnabod y byddai'r gofyniad yn rhoi pwysau sylweddol ar adnoddau awdurdodau lleol ac roedd wedi darparu cronfa galedi gwerth £10m i ddechrau helpu i ddiwallu'r pwysau hynny (a oedd yn dod i ben ym mis Gorffennaf). Roedd y Cyngor wedi hawlio tua £80k y mis o'r gronfa. Roedd Llywodraeth Cymru hefyd wedi nodi y byddai £20m ychwanegol (cymysgedd o gyllid refeniw a chyfalaf) ar gael i awdurdodau lleol a byddent yn cael eu gwahodd i gyflwyno ceisiadau i'r gronfa i'w helpu gyda hyn ac i lunio cynlluniau pontio ar gyfer mynd i'r afael â digartrefedd. Roedd y cais yn cynnwys llunio cynlluniau cynaliadwy i wella'r ddarpariaeth o ran llety dros dro a chymorth i alluogi'r rhai a oedd yn ddigartref i gael llety parhaol.
Yn unol â'r gofyniad uchod, bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried Cynllun Pontio - Digartrefedd arfaethedig yr awdurdod a oedd yn cynnwys:
· Amlinelliad o effaith COVID-19 ar y ddarpariaeth o ran digartrefedd yn enwedig o ran pobl sengl;
· Amlinelliad o’r cynlluniau i gefnogi ac ailgartrefu pobl ddigartref dros y 12 mis nesaf ac i'r dyfodol;
· Cais a luniwyd i Lywodraeth Cymru am arian i helpu awdurdodau lleol i wneud y cynlluniau a'r newidiadau sydd eu hangen.
Yn deillio o'r uchod, dywedwyd wrth y Bwrdd Gweithredol bod aelod o staff yn Ysgol y Dderwen wedi cael prawf positif am Covid-19 a bod y protocolau Profi, Olrhain a Diogelu wedi'u rhoi ar waith a'u bod yn gweithio'n dda. Roedd y Pennaeth wedi ysgrifennu at holl rieni’r plant yn yr ysgol yn dweud ei fod yn gweithio gyda'r Awdurdod Lleol ar reoli'r sefyllfa gan eu hatgoffa o symptomau Covid-19, beth i'w wneud os byddent yn amau bod ganddynt y symptomau gan gynnwys hunanynysu a chysylltu â Llesiant Delta.
Nododd y Bwrdd Gweithredol fod y systemau a'r protocolau a oedd ar waith yn gweithio i ddiogelu staff yr ysgol.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL
6.1 |
Nodi'r modd roedd y Cyngor wedi rheoli'r galw ar wasanaethau digartrefedd o ganlyniad i Covid-19; |
6.2 |
Bod y camau gweithredu a amlinellir yn yr adroddiad yn cael eu cymeradwyo a bod y cynllun pontio a fydd yn llywio'r cais i Lywodraeth Cymru yn cael ei gadarnhau. |