Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad ar gynigion i gyflwyno Gorchymyn Cyngor Sir Caerfyrddin, Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus (Yfed Alcohol yng nghanol Tref Llanelli) 2020. Pe bai'n cael ei fabwysiadu, byddai'r Gorchymyn yn rhoi pwerau ychwanegol i swyddogion yr heddlu, Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu a phobl eraill y rhoddwyd awdurdod iddynt gan y Cyngor, pan fyddent o'r farn bod unigolyn yn yfed, neu wedi bod yn yfed, alcohol o fewn yr ardal ddynodedig yng nghanol y dref.
Er y byddai'r Gorchymyn yn gwahardd yfed alcohol ar y tir yr oedd yn berthnasol iddo, nodwyd na fyddai'n drosedd yfed alcohol yn yr ardal ddynodedig. Fodd bynnag, byddai'n drosedd i fethu â chydymffurfio â chais a wneir gan yr heddlu, neu bobl awdurdodedig eraill, i roi'r gorau i yfed alcohol neu ildio alcohol heb esgus rhesymol. Byddai methu â chydymffurfio â'r cais hwnnw gyfystyr â thorri'r Gorchymyn a byddai unigolion naill ai'n cael Hysbysiad Cosb Benodedig o hyd at £100 neu'n cael eu harestio a gallai hyn arwain at ddirwy o hyd at £500.
Nodwyd ymhellach na fyddai'r Gorchymyn yn gymwys i nifer o fannau cyhoeddus lle yr awdurdodir gwerthu ac yfed alcohol o dan ddeddfwriaeth arall er enghraifft mewn clybiau a safleoedd trwyddedig. Byddai'r Gorchymyn yn parhau am gyfnod o dair blynedd ac yn cael ei adolygu'n rheolaidd.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL
8.1 |
Bod cyflwyno Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus i fynd i'r afael â throseddau, anhrefn a niwsans sy'n gysylltiedig ag alcohol yn yr ardal a nodir yn Llanelli yn cael ei gymeradwyo; |
8.2 |
Bod y swm sy'n daladwy pan fyddai Hysbysiad Cosb Benodedig yn cael ei roi yn £100; |
8.3 |
Bod adolygiad o ffin y Gorchymyn yn cael ei gynnal o fewn chwe mis |