FFORDD GYSWLLT ECONOMAIDD CROSS HANDS GORCHYMYN PRYNU GORFODOL
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Yn dilyn cynnal prawf budd y cyhoedd, PENDERFYNWYD yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod 10 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig am faterion ariannol neu faterion busnes unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).
Roedd y budd i'r cyhoedd mewn perthynas â'r adroddiad hwn yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth, gan y byddai datgelu'r wybodaeth yn tanseilio safbwynt y Cyngor mewn unrhyw drafodaethau dilynol.
Atgoffwyd y Bwrdd Gweithredol ei fod yn ystod ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 25 Ebrill 2016, wedi cymeradwyo mewn egwyddor, i ddefnyddio pwerau prynu gorfodol gan y Cyngor i gaffael tir sy'n angenrheidiol ar gyfer adeiladu Ffordd Gyswllt Economaidd Cross Hands. Yn dilyn y penderfyniad hwnnw, bu'r Bwrdd yn ystyried adroddiad a oedd yn ceisio defnyddio'r pwerau hynny i gaffael tir ar gyfer y ffordd gyswllt hon
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL i gymeradwyo "GORCHYMYN PRYNU GORFODOL CYNGOR SIR CAERFYRDDIN (FFORDD GYSWLLT ECONOMAIDD CROSS HANDS) 2020" , fel y nodir yn yr adroddiad.