9 ADOLYGIAD BLYNYDDOL O'R CYFANSODDIAD PDF 95 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Atgoffwyd y Cyngor o'r gofyniad iddo adolygu ei gyfansoddiad yn flynyddol ac, fel rhan o'r broses honno, roedd wedi sefydlu Gweithgor Adolygu'r Cyfansoddiad i gyflwyno unrhyw newidiadau a argymhellwyd.
Dywedwyd er nad oedd unrhyw newidiadau deddfwriaethol wedi'u cyflwyno yn ystod 2019/20 a oedd yn mynnu bod newidiadau'n cael eu gwneud i Gyfansoddiad y Cyngor, bod angen newid Rhan 6.1 i adlewyrchu'r symiau a ragnodwyd gan y Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol a oedd i'w talu i Gynghorwyr ar gyfer 2020/21, fel y manylir yn yr adroddiad.
O ran gwaith Gweithgor Adolygu'r Cyfansoddiad, dywedwyd er ei fod wedi cael y dasg o adolygu ac argymell unrhyw newidiadau i'r cyfansoddiad, ni fu hyn bosibl ar ôl atal holl gyfarfodydd y Cyngor mewn ymateb i bandemig Covid 19. Felly, cynigiwyd y dylid gohirio'r Adolygiad Blynyddol i gyfarfod o'r Cyngor yn y dyfodol.
PENDERFYNWYD
9.1 |
bod Cynllun Cyflogau a Lwfansau Cynghorwyr ac Aelodau Cyfetholedig ar gyfer 2020/21 fel y manylir arno yn yr adroddiad yn cael ei fabwysiadu; |
9.2 |
cymeradwyo unrhyw newidiadau angenrheidiol i'r Cyfansoddiad o ran aelodaeth a wnaed yn gynharach yn y cyfarfod; |
9.3 |
Wrth ystyried pandemig Covid-19, bod yr adolygiad blynyddol llawn o'r Cyfansoddiad yn cael ei ohirio i gyfarfod o'r Cyngor yn y dyfodol. |