Mater - cyfarfodydd

RHANBARTH Y GORLLEWIN - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO

Cyfarfod: 30/06/2020 - Pwyllgor Cynllunio (eitem 5)

5 RHANBARTH Y GORLLEWIN - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO pdf eicon PDF 992 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

5.1     PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu'r ceisiadau cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau a nodwyd yn Adroddiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-

 

W/39871

Addasu sgubor yn llety gwyliau ym Mhantybarcud, Felindre, Llandysul, SA44 5XJ

 

W/40201

Dymchwel y gegin, yr ystafell ymolchi a'r adeilad allanol presennol. Adeiladu estyniad unllawr â tho gwastad i'r breswylfa er mwyn cynnwys cegin ac ystafell ymolchi yn 53 Hillcroft, Heol Blaenhirwaun, Drefach, Llanelli, SA14 7AJ.

 

 

5.2     PENDERFYNWYD caniatáu Cais Cynllunio W/39913 yn groes i argymhelliad y Pennaeth Cynllunio, ar y sail y barnwyd fod y datblygiad arfaethedig yn unol â Pholisïau H5, SP15 a TSM4, a bod yr amodau angenrheidiol yn cael eu gosod.

 

W/39913

Addasu prif adeilad y tu-allan, dymchwel ac ailadeiladu adeilad presennol y tu allan ynghyd â gwneud estyniad cysylltiol er mwyn ffurfio dwy uned llety gwyliau yn y Bwlch, Capel Iwan, Castellnewydd Emlyn, SA38 9NW

 

Dywedodd yr Uwch Swyddog Rheoli Datblygu [Dwyrain] ei fod wedi derbyn e-bost gan yr asiant yn egluro bod yr adeilad newydd a gynigwyd, er ei fod ar ffurf deulawr, yn darparu llety unllawr yn unig. Fodd bynnag, roedd yr asiant yn deall ac yn gwerthfawrogi'r rheswm drafft dros wrthod y cais yng nghyd-destun y polisi.

 

Gwnaed sylw gan yr Aelod lleol, a nododd ei fod yn cefnogi’r cais, yn groes i argymhelliad y swyddog i wrthod y cais, a nododd mai nod y datblygiad oedd addasu hen dwlc mochyn yn llety i ymwelwyr trwy ailddefnyddio'r cerrig gwreiddiol er mwyn cadw cymeriad yr adeilad.  Cyfeiriwyd at adroddiad a ddatblygwyd gan Gr?p Gorchwyl Materion Gwledig Caerfyrddin gan nodi pryderon bod ardaloedd gwledig yn cael eu gadael ar ôl ac yr ateb i gynaliadwyedd oedd annog Twristiaeth lle bo hynny'n bosibl.  Mynegodd yr Aelod lleol yn gryf na ddylid atal yr ymgeiswyr rhag dilyn y datblygiad arfaethedig a oedd yn hybu twristiaeth yn yr ardal.  Yn ogystal, yn groes i argymhelliad y Swyddogion i wrthod y cais, y teimlad oedd y byddai'r estyniad yn welliant ac nad oedd yn cael ei ystyried yn newid helaeth, ac o ganlyniad, cynigiwyd caniatáu'r cais, ac eiliwyd hynny.

 

Ategodd yr Uwch Swyddog Rheoli Datblygu [Dwyrain] i'r Pwyllgor y rhesymau pam yr argymhellwyd gwrthod y cais fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad. Roedd y datblygiad arfaethedig yn gyfystyr â newid, ymestyn ac ailadeiladu helaeth i hwyluso'r broses o greu dwy uned wyliau ac oherwydd hyn, fe'i hystyriwyd yn groes i Bolisïau TSM4 a H5 o Gynllun Datblygu Lleol Sir Caerfyrddin 2014 a pharagraff 3.4.1 o Nodyn Cyngor Technegol 23: Datblygu Economaidd Chwefror 2014.

 

Consensws y Pwyllgor oedd bod dehongliad y cais yn oddrychol.

 

Cytunodd y Pwyllgor y dylid gosod yr amodau angenrheidiol.

 

 

 


Cyfarfod: 26/03/2020 - Pwyllgor Cynllunio (eitem 5.)

5. RHANBARTH Y GORLLEWIN - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO pdf eicon PDF 992 KB

Dogfennau ychwanegol: