Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd Cadeirydd y Pwyllgor Craffu - Gofal Cymdeithasol ac Iechyd adroddiad i'r Bwrdd Gweithredol ei ystyried gan Gr?p Gorchwyl a Gorffen y Pwyllgor hwnne ar gyfer 2018/19 sef 'Adolygiad o effaith unigrwydd yn Sir Gaerfyrddin', a'r pedwar argymhelliad canlynol y manylwyd arnynt a gafodd eu llunio gan y Gr?p yn dilyn ystyried ystod o dystiolaeth dros gyfres o gyfarfodydd a gynhaliwyd rhwng mis Mehefin 2018 a mis Ebrill 2019:
· Cymryd agwedd strategol at unigrwydd;
· Mynd i'r afael ag unigrwydd fel blaenoriaeth bwysig a rennir;
· Canolbwyntio ar adeiladu a chefnogi asedau cymunedol;
· Mynd i'r afael yn uniongyrchol â rhwystrau o ran cysylltu.
Diolchwyd i'r Gr?p Gorchwyl a Gorffen a'r swyddogion a gynorthwyodd gyda'r gwaith rhagorol a wnaed.
Atgoffwyd y Bwrdd y tynnwyd sylw at faterion unigrwydd ac arwahanrwydd hefyd yng nghanfyddiadau Gr?p Gorchwyl Materion Gwledig Sir Gaerfyrddin, sef cofnod 6 o gyfarfod y Bwrdd Gweithredol a gynhaliwyd ar 1 Gorffennaf 2019, lle'r oedd diffyg trafnidiaeth, cyhoeddus a phreifat, hefyd yn cael ei ystyried yn ffactor a oedd yn cyfrannu at hyn.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r adroddiad a'r argymhellion i'w hystyried ymhellach.