Mater - cyfarfodydd

ADOLYGU DOSBARTHAU PLEIDLEISIO A MANNAU PLEIDLEISIO

Cyfarfod: 09/10/2019 - Cyngor Sir (eitem 9)

9 ADOLYGU DOSBARTHAU PLEIDLEISIO A MANNAU PLEIDLEISIO pdf eicon PDF 477 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cyngor yn ystyried adroddiad ar yr adolygiad o Ddosbarthau Pleidleisio a Mannau Pleidleisio. Gwnaeth Adran 18C o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 (fel y'i diwygiwyd gan Adran 17 o Ddeddf Cofrestru a Gweinyddu Etholiadol 2013) gyflwyno dyletswydd i adolygu pob dosbarth a man pleidleisio seneddol bob 5 mlynedd.

 

Cynhaliwyd adolygiad rhagarweiniol o'r dosbarthau pleidleisio a'r mannau pleidleisio presennol o 3 Medi 2018 a daeth i ben ar 12 Hydref 2018. Fel rhan o'r gwaith o baratoi cynllun arfaethedig diwygiedig o'r Dosbarthau Pleidleisio a Mannau Pleidleisio, bu'r Swyddog Canlyniadau'n ystyried, fel ystyriaethau allweddol, hwylustod i etholwyr a hygyrchedd i bleidleiswyr ag anableddau.

 

Dechreuodd y broses adolygu ar 23 Ionawr 2019 gydag ymarfer ymgynghori cyhoeddus ar wefan Cyngor Sir Caerfyrddin, ymgynghori â phob parti â diddordeb a chyhoeddi Hysbysiad Cyhoeddus o'r Adolygiad ynghyd ag atodlenni'r cynllun presennol a'r cynllun arfaethedig a oedd yn tynnu sylw at y newidiadau a argymhellwyd.  Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno sylwadau oedd 27 Chwefror 2019.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r adroddiad ar yr Adolygiad o Ddosbarthau Pleidleisio a Mannau Pleidleisio.