Mater - cyfarfodydd

CITY DEAL UPDATE REPORT

Cyfarfod: 13/05/2019 - Cabinet (eitem 8)

8 BARGEN DDINESIG BAE ABERTAWE pdf eicon PDF 162 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Bwrdd adroddiad yn rhoi manylion am ganfyddiadau a goblygiadau'r adolygiadau diweddar a gynhaliwyd mewn perthynas â Bargen Ddinesig Bae Abertawe.

 

Ym mis Rhagfyr 2018 cyhoeddodd Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru y byddai adolygiad annibynnol yn cael ei gynnal ynghylch Bargen Ddinesig Bae Abertawe.  Yn ogystal, penderfynodd Cyd-bwyllgor Bae Abertawe, yn ei gyfarfod ar 14 Rhagfyr 2018, y byddai adolygiad mewnol i drefniadau llywodraethu Bargen Ddinesig Bae Abertawe hefyd yn cael ei gynnal ochr yn ochr ag Adolygiad Annibynnol Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru. Cytunwyd y byddai Cyngor Sir Penfro yn arwain yr Adolygiad Mewnol, ac yn cael ei gefnogi gan Uwch-archwilydd a enwebwyd o Gynghorau Sir Caerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe.

 

Roedd Cyd-bwyllgor Bargen Ddinesig Bae Abertawe wedi ystyried a derbyn yn ffurfiol ganfyddiadau adolygiadau Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru a'r Cyd-bwyllgor Mewnol yn ei gyfarfod ar 26 Mawrth, 2019. Roedd Bwrdd y Rhaglen wedi cael y dasg o ddatblygu cynllun gweithredu i symud yr argymhellion yn eu blaenau ac adrodd yn ôl i'r Cyd-bwyllgor nesaf a oedd i'w gynnal ar 28 Mai 2019.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

 

8.1 bod Adolygiad Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ac Adolygiad Cyd-bwyllgor Bae Abertawe yn cael eu derbyn;

8.2    parhau i adolygu cynnydd mewn perthynas â Bargen Ddinesig Bae Abertawe;

8.3   dirprwyo i'r Arweinydd, ar y cyd â'r Prif Weithredwr, y Swyddog Monitro a'r Swyddog Adran 151, yr awdurdod i gytuno ar newidiadau, lle ystyrir bo hynny'n briodol, i Gytundeb y Cyd-bwyllgor yn unol ag argymhellion yr adolygiadau.     Ni fyddai'r newidiadau yn berthnasol i unrhyw newid perthnasol i rwymedigaethau cyfreithiol ac ariannol y Cyngor o dan Gytundeb y Cyd-bwyllgor, oherwydd caiff materion o'r fath eu cadw i'r aelodau benderfynu yn eu cylch.