TIR DATBLYGU, TROSTRE, LLANELLI - EITHRIEDIG
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng Nghofnod 10 uchod, ystyried y mater hwn yn breifat gan orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod oherwydd byddai datgelu cynnwys yr adroddiad hwn yn anfantais faterol i'r Awdurdod mewn unrhyw drafodaethau dilynol â thrydyddpartïon, a gallai cael effaith niweidiol ar y pwrs cyhoeddus. Felly roedd budd y cyhoedd o ran cynnal yr eithriad yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu cynnwys yr adroddiad.
Ystyriodd y Bwrdd Gweithredol adroddiad yn manylu ar gynigion a oedd wedi dod i law am 3 llain o dir datblygu yn Nhrostre.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL
12.1 bod llain 1 yn cael ei waredu yn unol ag opsiwn D, fel y manylir arno yn yr adroddiad;
12.2 parhau i farchnata lleiniau 2 a 3.