Mater - cyfarfodydd

FORMER TENANT DEBT WRITE-OFF

Cyfarfod: 25/03/2019 - Cyfarfod Penderfyniadau Aelod o'r Cabinet dros Adnoddau (Cyn Mai 2022) (eitem 3)

3 DILEU DYLEDION CYN-DENANTIAID

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn dilyn cynnal prawf budd y cyhoedd, PENDERFYNWYD yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod 2 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig am faterion ariannol neu faterion busnes unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).

 

Roedd y prawf budd y cyhoedd mewn perthynas â'r mater hwn yn ymwneud â'r ffaith fod yr adroddiad yn cynnwys data personol am gyn-denantiaid y cyngor, ynghyd â manylion am eu hôl-ddyledion rhent. Dywedwyd nad oedd cyfiawnhad dros gyhoeddi dyledion unigol, ac y byddai hynny'n anfanteisiol i hawliau a rhyddid yr unigolion perthnasol. Felly yr oedd y budd i'r cyhoedd o ran cadw cyfrinachedd yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth.

 

Rhoddodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol ystyriaeth i adroddiad oedd wedi ei lunio'n unol â Rheolau Gweithdrefn y Cyngor, a oedd nodi'r sefyllfa bresennol o ran dyledion cyn-denantiaid ac yn gofyn am ddileu dyledion o fwy na £1,500 gan gyn-denantiaid.

 

Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol fod yr achosion a amlinellwyd yn yr adroddiad yn achosion hirdymor a bod ymdrechion aflwyddiannus wedi eu gwneud naill ai i olrhain y cyn-denantiaid neu adennill y swm sy'n ddyledus, neu'r ddau. Rhoddodd ystyriaeth i'r adroddiadau unigol ar gyfer pob un o'r cyn-denantiaid a oedd yn manylu ar y rhesymau dros geisio dileu dyledion. Roedd y rhesymau yn cynnwys amgylchiadau personol a bod rhai o'r dyledion yn waharddedig drwy statud

 

PENDERFYNWYD dileu ôl-ddyledion y cyn-denantiaid, fel yr oeddid wedi manylu arnynt yn yr adroddiad, am nad oedd modd eu hadennill.

 

 


Cyfarfod: 25/03/2019 - Cyfarfod Penderfyniadau Aelod o'r Cabinet dros Adnoddau (Cyn Mai 2022) (eitem 3.)

3. DILEU DYLEDION CYN-DENANTIAID

Dogfennau ychwanegol: