GWAREDU TIR Â RISGIAU CYSYLLTIEDIG - EITHRIEDIG
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng Nghofnod 10 uchod, ystyried y mater hwn yn breifat, gan orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod oherwydd byddai datgelu cynnwys yr adroddiad hwn yn gwanhau sefyllfa'r Awdurdod mewn trafodaethau â darpar brynwyr ac o bosibl yn arwain at lai o dderbyniadau cyfalaf i gyllid cyhoeddus nag a fyddai'n digwydd fel arall. Felly roedd budd y cyhoedd o ran cynnal yr eithriad yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu cynnwys yr adroddiad.
[NODER: Roedd y Cynghorydd E. Dole wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]
Rhoddodd y Bwrdd Gweithredol ystyriaeth i adroddiad a oedd yn manylu ar y cynigion oedd wedi dod i law am safleoedd diangen sydd â risgiau posibl a chostau cynnal a chadw uchel sy'n gysylltiedig â defnyddiau blaenorol a phresennol.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod y 9 safle a nodwyd yn cael eu gwerthu yn unol â'r argymhellion fel y manylir yn yr adroddiad.