Mater - cyfarfodydd

PROPOSAL TO CHANGE THE NATURE OF PROVISION AT YSGOL Y DDWYLAN, YSGOL GRIFFITH JONES, YSGOL LLANGYNNWR AND YSGOL LLYS HYWEL

Cyfarfod: 13/05/2019 - Cabinet (eitem 7)

7 RHAGLEN MODERNEIDDIO ADDYSG CYNNIG I NEWID NATUR Y DDARPARIAETH YN YSGOL Y DDWYLAN, YSGOL GRIFFITH JONES, YSGOL LLANGYNNWR AC YSGOL LLYS HYWEL pdf eicon PDF 174 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Bwrdd gynnig i newid natur y ddarpariaeth yn Ysgol y Ddwylan, Ysgol Griffith Jones, Ysgol Llangynnwr ac Ysgol Llys Hywel.

 

Er mwyn gwireddu'r weledigaeth ar gyfer Sir Gâr ddwyieithog, fel y nodwyd yng Nghynlluniau Strategol Llywodraeth Cymru a Chynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg Sir Gaerfyrddin, bydd angen i'r Awdurdod sicrhau twf sylweddol mewn addysg cyfrwng Cymraeg er mwyn cynyddu nifer y plant a'r bobl ifanc sy'n rhugl yn y Gymraeg a'r Saesneg.

 

Er mwyn gallu cynyddu'r ddarpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg, un o amcanion yr Awdurdod yw cynorthwyo ein hysgolion dwy ffrwd a thrawsnewidiol i ddod yn ysgolion cyfrwng Cymraeg.  Cynigwyd felly, i newid natur darpariaeth y Cyfnod Sylfaen yn Ysgol y Ddwylan, Ysgol Griffith Jones, Ysgol Llangynnwr ac Ysgol Llys Hywel i gyfrwng y Gymraeg gyda'r dewis o gyfrwng iaith yn cael ei gyflwyno yng Nghyfnod Allweddol 2, o 1 Medi 2020 ymlaen.

 

Bydd y cyfnod ymgynghori ar gyfer y cynnig yn dechrau ar 20 Mai 2019 ac yn dod i ben ar 30 Mehefin 2019.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

 

7.1 bod y cynnig i newid natur y ddarpariaeth yn Ysgol y Ddwylan, Ysgol Griffith Jones, Ysgol Llangynnwr ac Ysgol Llys Hywel, fel y manylir arno yr adroddiad, yn cael ei gymeradwyo;

7.2.     bod swyddogion yn cychwyn ymgynghoriad ffurfiol ynghylch y cynnig yn ystod tymor yr haf 2019;

7.3. bod adroddiad pellach yn cael ei gyflwyno i'r Bwrdd Gweithredol i'w ystyried ar ddiwedd y cyfnod ymgynghori statudol.