5 SAFONAU LLYFRGELLOEDD CYHOEDDUS CYMRU 2017-2020 PDF 128 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Rhoddodd y Bwrdd ystyriaeth i adroddiad ynghylch Asesiad Blynyddol Gwasanaethau Llyfrgelloedd Sir Gaerfyrddin 2017/18, a luniwyd yn unol â gofynion Deddf Llyfrgelloedd Cyhoeddus ac Amgueddfeydd 1964, a osododd ddyletswydd statudol ar yr holl Awdurdodau Llyfrgelloedd Cyhoeddus i 'ddarparu gwasanaeth llyfrgell cynhwysfawr ac effeithiol' ac ar Weinidogion Cymru i 'oruchwylio a hyrwyddo'r gwaith o wella' gwasanaethau llyfrgelloedd cyhoeddus Cymru.
Yn unol â'r gofynion hyn, roedd Llywodraeth Cymru wedi cwblhau ei hasesiad o Wasanaeth Llyfrgelloedd Sir Gaerfyrddin ar gyfer 2017/18.
Roedd yn braf gweld bod Sir Gaerfyrddin yn bodloni pob un o'r 12 o hawliau craidd yn llawn, ac o'r deg dangosydd ansawdd oedd â thargedau, roedd Sir Gaerfyrddin wedi cyflawni naw yn llawn ac un yn rhannol.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL argymell i'r Bwrdd Gweithredol fod yr adroddiad yn cael ei dderbyn.