Mater - cyfarfodydd

" Objections to the County of Carmarthenshire - Waiting Restrictions and Street Parking - (Llanelli) (Variation 33)

Cyfarfod: 28/01/2019 - Cyfarfod Penderfyniadau Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd (Cyn Mai 2022) (eitem 3)

3 GWRTHWYNEBIADAU I GYFYNGIADAU AR AROS A PHARCIO AR Y STRYD - (LLANELLI) (AMRYWIAD 33) - CYNGOR SIR CAERFYRDDIN pdf eicon PDF 225 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol adroddiad ar gynigion i wneud Gorchymyn yn amrywio cyfyngiadau ar aros a pharcio ar y stryd (Llanelli) (Amrywiad 33).

Rhoddwyd gwybod yn dilyn ymgynghori cychwynnol ynghylch y cynigion â'r ymgyngoreion statudol, fod wyth gwrthwynebiad/sylw a deiseb yn erbyn y cynigion a hysbysebwyd wedi dod i law, fel y manylwyd yn Atodiad 3 (Gwrthwynebiadau a Sylwadau) yr adroddiad ynghyd ag ymatebion y swyddog iddynt. Argymhellwyd bwrw ati â'r cynigion, fel y manylwyd yn Atodiad 1 (Hysbysiad Cyhoeddus) ac Atodiad 2 (Cynlluniau), a rhoi gwybod i'r gwrthwynebwyr am hynny.

PENDERFYNWYD nodi'r gwrthwynebiadau/sylwadau a ddaeth i law mewn perthynas ag amrywio'r cyfyngiadau ar aros a pharcio ar y stryd mewn amrywiol leoliadau, fel y manylwyd yn Atodiad 1 i'r adroddiad, yn amodol ar y newidiadau y manylwyd arnynt yn adran 3.2, ond bod y Gorchmynion yn cael eu cadarnhau a bod y gwrthwynebwyr yn cael gwybod am hynny.

 

 


Cyfarfod: 23/01/2019 - Cyfarfod Penderfyniadau Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd (Cyn Mai 2022) (eitem 3.)

3. GWRTHWYNEBIADAU I GYFYNGIADAU AR AROS A PHARCIO AR Y STRYD - (LLANELLI) (AMRYWIAD 33) - CYNGOR SIR CAERFYRDDIN pdf eicon PDF 224 KB

Dogfennau ychwanegol: