4 Y DIWEDDARAF AM BROSIECT SEILWAITH DIGIDOL PDF 228 KB
Cofnodion:
Bu'r Cyd-bwyllgor yn ystyried adroddiad diweddaru ynghylch cynnydd y Prosiect Seilwaith Digidol a'r tair elfen ohono sy'n ymwneud â Dyfarnu'r Tendr Seilwaith Digidol, y Rhwydwaith Ffeibr Llawn Lleol a 5G yng Nghymru.
Nododd y Cyd-bwyllgor fod datblygiad Dyfarnu'r Tendr Seilwaith Digidol yn unol â'r amserlen ar hyn o bryd, a bod gwaith ar yr achos busnes yn mynd yn ei flaen. Disgwylir i'r gwaith o baratoi'r cynnig llawn ar gyfer y Rhwydwaith Ffeibr Llawn Lleol, sy'n cael ei wneud ar y cyd rhwng CUBE Ultra Ltd a Dinas a Sir Abertawe, gael ei gwblhau cyn bo hir. Disgwylir iddo gael ei gyflwyno i'r Adran dros Ddiwylliant Digidol, y Cyfryngau a Chwaraeon ym mis Ionawr 2019. Roedd datblygiad technoleg 5G (5ed Cenhedlaeth) yn cael sylw fel rhan o ymagwedd Cymru gyfan, a arweinir gan Innovation Point.
Rhoddwyd gwybod i'r Cyd-bwyllgor bod Gweinidogion Llywodraeth Cymru, mewn cyfarfod diweddar gyda chynrychiolwyr Bargen Ddinesig Bae Abertawe, wedi cefnogi'r Prosiect Seilwaith Digidol a dweud eu bod am iddo gael ei ddatblygu cyn gynted â phosibl.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad diweddaru ynghylch y Prosiect Seilwaith Digidol.
4. Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM Y SEILWAITH DIGIDOL PDF 207 KB