7 ADRODDIAD BLYNYDDOL Y GWASANAETH CAMDDEFNYDDIO SYLWEDDAU 2016-17 PDF 123 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Bu'r Pwyllgor yn ystyried Adroddiad Blynyddol y Gwasanaeth Camddefnyddio Sylweddau 2016-17 a oedd yn amlinellu'r amcanion ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod.
Rhoddodd yr adroddiad wybodaeth ystadegol am ystod o wahanol categorïau atgyfeirio a dadansoddiad o ddata o ran oedran, rhywedd a'r sylweddau a ddefnyddir.
Rhoddwyd sylw i'r materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:-
· Mewn ymateb i ymholiad a wnaed ynghylch digartrefedd o ganlyniad i ddibyniaeth ar alcohol/cyffuriau, dywedodd yr Uwch-reolwr - Anghenion Cymhleth a Phontio fod yna gysylltiadau agos rhwng digartrefedd a'r defnydd o alcohol/cyffuriau, a oedd wedi'u hystyried a'u cynnwys yn y Strategaeth Ddigartrefedd.
· O ran adsefydlu, gofynnwyd a oedd y prosiect 't? sych' yn gweithio. Esboniodd yr Uwch-reolwr - Anghenion Cymhleth a Phontio i'r Pwyllgor mai t? 5 ystafell wely yn Nh?-croes yw'r prosiect, sydd â'r nod o gynorthwyo unigolion wrth iddynt adfer drwy ddarparu cyngor arbenigol mewn amgylchedd cefnogol, a bod nifer o lwyddiannau wedi dod yn sgil y prosiect.
·
Mewn ymateb i ymholiad a
wnaed ynghylch niwed i'r ymennydd sy'n gysylltiedig ag alcohol a
chyffuriau, dywedodd yr Uwch-reolwr - Anghenion Cymhleth a Phontio
nad oedd tystiolaeth wirioneddol i awgrymu bod yna gyswllt rhwng
defnyddio cyffuriau a niwed i'r ymennydd, er bod yna dystiolaeth i
awgrymu bod yna gyswllt rhwng alcohol a phobl yn datblygu
anawsterau gwybyddol gan arwain at ddementia yn hwyrach mewn
bywyd. Fodd bynnag, gallai fod yna
gysylltiadau rhwng defnyddio cyffuriau ac effaith bosibl ar iechyd
meddwl.
·
O ran cyflwyno isafswm pris
yr uned ar gyfer alcohol yn yr Alban, rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor
gan Gyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd fod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo
i fabwysiadu strwythur prisio unedau yng Nghymru ac mai'r gobaith
yw y byddai cytundeb ffurfiol yn cael ei wneud dros yr haf, ac
wedyn byddai cyfnod cyflwyno o 2 flynedd.
· Gwnaed ymholiad ynghylch Bws Drugaid a pha mor aml mae'n cael ei ddefnyddio. Dywedodd Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd mai Gwasanaethau Cyffuriau ac Alcohol Dyfed oedd yn berchen ar y bws ac y byddai hi'n hapus i wneud ymholiadau a rhoi ffigurau i'r Pwyllgor.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.
7. ADRODDIAD BLYNYDDOL Y GWASANAETH CAMDDEFNYDDIO SYLWEDDAU 2016-17 PDF 123 KB
Dogfennau ychwanegol: