Mater - cyfarfodydd

SUBSTANCE MISUSE SERVICE ANNUAL REPORT 2016-17

Cyfarfod: 21/05/2018 - Cyd-Gyfarfod o'r Pwyllgorau Craffu Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd & Gofal Cymdeithasol ac Iechyd (eitem 7)

7 ADRODDIAD BLYNYDDOL Y GWASANAETH CAMDDEFNYDDIO SYLWEDDAU 2016-17 pdf eicon PDF 123 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Adroddiad Blynyddol y Gwasanaeth Camddefnyddio Sylweddau 2016-17 a oedd yn amlinellu'r amcanion ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod.

 

Rhoddodd yr adroddiad wybodaeth ystadegol am ystod o wahanol categorïau atgyfeirio a dadansoddiad o ddata o ran oedran, rhywedd a'r sylweddau a ddefnyddir.

 

Rhoddwyd sylw i'r materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

·       Mewn ymateb i ymholiad a wnaed ynghylch digartrefedd o ganlyniad i ddibyniaeth ar alcohol/cyffuriau, dywedodd yr Uwch-reolwr - Anghenion Cymhleth a Phontio fod yna gysylltiadau agos rhwng digartrefedd a'r defnydd o alcohol/cyffuriau, a oedd wedi'u hystyried a'u cynnwys yn y Strategaeth Ddigartrefedd.

 

·       O ran adsefydlu, gofynnwyd a oedd y prosiect 't? sych' yn gweithio. Esboniodd yr Uwch-reolwr - Anghenion Cymhleth a Phontio i'r Pwyllgor mai t? 5 ystafell wely yn Nh?-croes yw'r prosiect, sydd â'r nod o gynorthwyo unigolion wrth iddynt adfer drwy ddarparu cyngor arbenigol mewn amgylchedd cefnogol, a bod nifer o lwyddiannau wedi dod yn sgil y prosiect.

 

·       Mewn ymateb i ymholiad a wnaed ynghylch niwed i'r ymennydd sy'n gysylltiedig ag alcohol a chyffuriau, dywedodd yr Uwch-reolwr - Anghenion Cymhleth a Phontio nad oedd tystiolaeth wirioneddol i awgrymu bod yna gyswllt rhwng defnyddio cyffuriau a niwed i'r ymennydd, er bod yna dystiolaeth i awgrymu bod yna gyswllt rhwng alcohol a phobl yn datblygu anawsterau gwybyddol gan arwain at ddementia yn hwyrach mewn bywyd.  Fodd bynnag, gallai fod yna gysylltiadau rhwng defnyddio cyffuriau ac effaith bosibl ar iechyd meddwl.

·       O ran cyflwyno isafswm pris yr uned ar gyfer alcohol yn yr Alban, rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor gan Gyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd fod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i fabwysiadu strwythur prisio unedau yng Nghymru ac mai'r gobaith yw y byddai cytundeb ffurfiol yn cael ei wneud dros yr haf, ac wedyn byddai cyfnod cyflwyno o 2 flynedd.

·       Gwnaed ymholiad ynghylch Bws Drugaid a pha mor aml mae'n cael ei ddefnyddio. Dywedodd Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd mai Gwasanaethau Cyffuriau ac Alcohol Dyfed oedd yn berchen ar y bws ac y byddai hi'n hapus i wneud ymholiadau a rhoi ffigurau i'r Pwyllgor.

 

 PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.


 

 


Cyfarfod: 02/03/2018 - Cyd-Gyfarfod o'r Pwyllgorau Craffu Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd & Gofal Cymdeithasol ac Iechyd (eitem 7.)

7. ADRODDIAD BLYNYDDOL Y GWASANAETH CAMDDEFNYDDIO SYLWEDDAU 2016-17 pdf eicon PDF 123 KB

Dogfennau ychwanegol: