Mater - cyfarfodydd

W/35450 - PROPOSES RESIDENTIAL DEVELOPMENT INCLUDING 42 NO. DWELLINGS AT LAND ADJACENT TO LAUGHARNE PRIMARY SCHOOL, LAUGHARNE, SA33 4SQ

Cyfarfod: 23/01/2018 - Pwyllgor Cynllunio (eitem 3)

3 W/35450 - DATBLYGIAD PRESWYL ARFAETHEDIG GAN GYNNWYS 42 0 BRESWYLFEYDD AR DIR GER YSGOL GYNRADD TALACHARN, TALACHARN SA33 4SQ pdf eicon PDF 234 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyfeiriodd yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu at ymweliad preifat y Pwyllgor â'r safle'n gynharach y diwrnod hwnnw (gweler cofnod 4.3 cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio ar 16 Tachwedd 2017), er mwyn i'r Pwyllgor gael golwg ar y pryderon oedd wedi'u lleisio ynghylch y cynnydd mewn traffig a fyddai'n digwydd yn sgil y datblygiad arfaethedig, er diogelwch cerddwyr, yn enwedig y plant sy'n cerdded i'r ysgol ac o'r ysgol. Cyfeiriodd, gyda chymorth sleidiau PowerPoint, at adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio a oedd yn rhoi arfarniad o'r safle, ynghyd â disgrifiad o'r datblygiad, crynodeb o'r ymatebion a gafwyd i'r ymgynghoriad a gwybodaeth am y polisïau lleol a chenedlaethol a oedd yn berthnasol wrth asesu'r cais.

 

Cyfeiriwyd yn benodol at hanes cynllunio'r safle mewn perthynas â chymeradwyo cais cynllunio W/09082 yn 2008, yn amodol ar Gytundeb Adran 106 i ddarparu manteision i'r gymuned, y ffaith fod y gymeradwyaeth honno wedi dod i ben yn 2013, a phenderfyniad Arolygydd Llywodraeth Cymru i gynnwys y safle yn ei hadolygiad rhwymol ynghylch yr CDLl, a gyhoeddwyd ar 16 Hydref 2014 heb unrhyw ofynion neu amodau penodol y bydd y manteision i'r gymuned y cytunwyd arnynt o dan W/09082 yn cael eu cynnwys mewn unrhyw ganiatâd cynllunio newydd. O ganlyniad i'r penderfyniad hwnnw, rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor y byddai angen ystyried y cais yn unol â deddfwriaeth gynllunio statudol bresennol, gan gynnwys Rheoliadau Ardoll Seilwaith Cymunedol 2010, a osodai gyfyngiadau ar y defnydd o Rwymedigaethau Cynllunio Adran 106, ac felly ni ellid cynnwys y manteision i'r gymuned y cytunwyd arnynt yn flaenorol yn y cais newydd.  Fodd bynnag, pe byddai'r Pwyllgor yn cymeradwyo'r cais, byddai dal angen i'r ymgeisydd gychwyn ar Gytundeb Adran 106 a fyddai'n cynnwys cyfraniad o £26k at addysg gynradd ac uwchradd yn nalgylch y safle, a gwelliannau i'r priffyrdd gan gynnwys darparu llwybr troed ar hyd rhan flaen y safle hyd at bentref Broadway.

 

I grynhoi, rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod y Pennaeth Cynllunio yn argymell cymeradwyo'r cais am y rhesymau a nodwyd yn ei hadroddiad ysgrifenedig ac yn amodol ar fod yr ymgeisydd yn cychwyn ar Gytundeb Adran 106.

 

Cyflwynwyd sylwadau ar y manteision i'r gymuned y cytunwyd arnynt yn flaenorol fel rhan o gais cynllunio W/09082 ac yn benodol, ar y problemau o ran trosglwyddo perchnogaeth tir. Dadleuwyd y dylai'r datblygwr gynnwys y manteision hynny fel rhan o unrhyw gais cynllunio newydd a gymeradwyir ar gyfer y tir. Cyflwynwyd sylwadau ychwanegol ar y mynedfeydd ar wahân ar gyfer yr elfennau tai fforddiadwy a'r tai preifat o'r datblygiad arfaethedig, a chysylltu'r elfennau hynny â'i gilydd er mwyn osgoi eu gwahanu.

 

Mewn ymateb i'r sylwadau, rhoddwyd gwybod gan asiant y Datblygwr bod y cais wedi bod yn destun ymgynghoriad helaeth ac na chyflwynwyd dim gwrthwynebiadau gan ymgyngoreion statudol, yn amodol ar amodau priodol, a'i fod hefyd yn cydymffurfio â pholisïau cynllunio lleol a chenedlaethol. O ran y gymeradwyaeth flaenorol, a'r cytundeb Adran 106, roedd y rheiny wedi dod i ben a byddai angen ystyried unrhyw gymeradwyaeth newydd a'r cytundeb Adran 106, yn unol â deddfwriaeth  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3