Mater - cyfarfodydd

RHAGOLWG CYLLIDEB REFENIW

Cyfarfod: 31/07/2017 - Cabinet (eitem 14)

14 Y RHAGOLYGON O RAN CYLLIDEB REFENIW 2018/19 TAN 2020/21 pdf eicon PDF 400 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad oedd yn manylu ar y rhagolygon ariannol presennol ac yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y model ariannol presennol ar gyfer y tair blynedd ariannol nesaf.  Roedd yr adroddiad yn amlinellu'r cynigion o ran paratoi'r gyllideb am y tair blynedd 2018/19 i 2020/21.

 

Cyfeiriodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Gymunedau a Materion Gwledig at adran Goblygiadau yr adroddiad gan ddweud ei fod o'r farn y dylid cynnwys ac ymgorffori'r Iaith Gymraeg yn un o'r grwpiau nodweddion yn yr adran Polisi, Troseddau ac Anhrefn a Chydraddoldebau, yn hytrach na'i nodi ar ei phen ei hun.  Cytunwyd i wneud y newid hwn.

 

PENDERFYNWYD:

 

14.1Bod y rhagolygon cychwynnol o ran y gyllideb a'r heriau ariannol sylweddol sydd ynghlwm â nhw yn cael eu nodi;

14.2Cymeradwyo'r dull a gynigiwyd o ran clustnodi'r arbedion angenrheidiol;

14.3Cymeradwyo'r dull a gynigiwyd o ran ymgynghori ynghylch y gyllideb.