14 Y RHAGOLYGON O RAN CYLLIDEB REFENIW 2018/19 TAN 2020/21 PDF 400 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad oedd yn manylu ar y rhagolygon ariannol presennol ac yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y model ariannol presennol ar gyfer y tair blynedd ariannol nesaf. Roedd yr adroddiad yn amlinellu'r cynigion o ran paratoi'r gyllideb am y tair blynedd 2018/19 i 2020/21.
Cyfeiriodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Gymunedau a Materion Gwledig at adran Goblygiadau yr adroddiad gan ddweud ei fod o'r farn y dylid cynnwys ac ymgorffori'r Iaith Gymraeg yn un o'r grwpiau nodweddion yn yr adran Polisi, Troseddau ac Anhrefn a Chydraddoldebau, yn hytrach na'i nodi ar ei phen ei hun. Cytunwyd i wneud y newid hwn.
PENDERFYNWYD:
14.1Bod y rhagolygon cychwynnol o ran y gyllideb a'r heriau ariannol sylweddol sydd ynghlwm â nhw yn cael eu nodi;
14.2Cymeradwyo'r dull a gynigiwyd o ran clustnodi'r arbedion angenrheidiol;
14.3Cymeradwyo'r dull a gynigiwyd o ran ymgynghori ynghylch y gyllideb.