12 PWERAU GORFODI TROSEDD TRAFFIG SYMUDOL PDF 659 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Ystyriodd y Bwrdd Gweithredol adroddiad ynghylch Pwerau Gorfodi Trosedd Traffig Symudol a oedd yn rhoi gwybodaeth am gael pwerau ychwanegol a fyddai'n ategu'r pwerau gorfodi rheolau parcio presennol ac a fyddai'n darparu rhagor o adnoddau i helpu i symud pobl a nwyddau, cadw safleoedd ysgol yn fwy diogel a sicrhau bod traffig yn parhau i symud yn gyffredinol. Roedd yr adroddiad yn nodi ardaloedd yng Nghaerfyrddin a oedd yn peri pryder penodol o ran diogelwch cerddwyr a symud traffig yn hwylus, y gall yr heddlu yn unig gymryd camau gorfodi yn eu cylch ar hyn o bryd.
Nodwyd, yn amodol ar gael caniatâd, fod Rheoliadau Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Traffig Ffyrdd (Darpariaethau Cyffredinol) (Cymru) 2013 yn galluogi Awdurdodau Lleol i fod yn gyfrifol am gymryd camau gorfodi mewn perthynas â lonydd bysiau a rhai tramgwyddau traffig symudol. Byddai camau gorfodi yn cael eu cymryd mewn perthynas â throseddau o'r fath drwy ddefnyddio dyfeisiau camera cymeradwy. Mae'n rhaid i'r Cyngor Sir wneud cais i Lywodraeth Cymru i ofyn am ganiatâd i ddefnyddio'r pwerau statudol a fyddai'n cwmpasu'r ardaloedd a nodwyd yn yr adroddiad.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R
CYNGOR:-
12.1
bod yr adroddiad ynghylch
Pwerau Gorfodi Trosedd Traffig Symudol yn cael ei
dderbyn;
12.2
Gwneud cais i Lywodraeth
Cynulliad Cymru am greu Gorchymyn i ddynodi strydoedd penodol yn
Sir Gaerfyrddin yn ‘Ardal Gorfodi Sifil’ ar gyfer
tramgwyddau traffig symudol a lonydd bysiau.
12.3 Dirprwyo awdurdod i Gyfarwyddwr yr Amgylchedd fwrw ati â'r mesurau angenrheidiol i weithredu'r cynigion a nodwyd yn yr adroddiad hwn.
12.4
Cydgysylltu â
PATROL-UK, y corff statudol sy'n darparu'r gwasanaeth dyfarnu
annibynnol, i benderfynu a oes angen unrhyw addasiadau i'r
trefniadau contractiol presennol ac i roi unrhyw newidiadau o'r
fath ar waith. Mae hyn yr un mor berthnasol i gyrff statudol eraill
megis yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) a'r
Ganolfan Gorfodi Rheolau Traffig.
12.5
Cymeradwyo'r cynigion ar gyfer ariannu'r costau sefydlu drwy'r
Gronfa Ddatblygu fel y nodwyd yn y Goblygiadau
Ariannol.
12.6 Cyfarwyddwr yr Amgylchedd i ymchwilio i ddichonoldeb defnyddio dyfeisiau camera sefydlog yn hytrach na dyfeisiau camera ar gerbydau.