8 ADRODDIAD BLYNYDDOL YNGYLCH RHEOLI’R TRYSORLYS A’R DANGOSYDD DARBODAETH 2016-2017 PDF 398 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Atgoffwyd y Bwrdd Gweithredol bod y Cyngor, yn ei gyfarfod ar 23 Chwefror 2016 (gweler Cofnod 9), wedi mabwysiadu Polisi a Strategaeth Rheoli'r Trysorlys 2016/17. Yn unol â'r polisi hwnnw, cafodd y Bwrdd yr Adroddiad Blynyddol ynghylch Dangosyddion Darbodaeth a Rheoli'r Trysorlys a oedd yn amlinellu gweithgareddau Rheoli Trysorlys yr Awdurdod yn ystod 2016/17 ac yn crynhoi'r gweithgareddau oedd wedi digwydd yn ystod 2016/17 o dan y penawdau canlynol: Buddsoddiadau; Benthyca; Dangosyddion Darbodaeth a Rheoli'r Trysorlys; Dangosyddion Darbodaeth; Prydlesu ac Aildrefnu.
PENDERFYNWYD ARGYMELL I'R CYNGOR ei fod yn derbyn Adroddiad Blynyddol 2016-17 ynghylch Dangosyddion Darbodaeth a Rheoli'r Trysorlys.