Mater - cyfarfodydd

WORK READY

Cyfarfod: 31/07/2017 - Cabinet (eitem 9)

9 ADRODDIAD Y RHAGLEN BAROD AM WAITH 2015-17 pdf eicon PDF 271 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried Adroddiad Rhaglen Barod am Waith 2015-17 a oedd yn rhoi cynigion i sicrhau cyllid am ddwy flynedd arall ar ôl llwyddiant parhaus y rhaglen.

 

Nododd y Bwrdd fod y prosiect wedi bod ar waith ers bron 6 blynedd a'i fod wedi cael llwyddiant cynyddol flwyddyn ar ôl blwyddyn wrth i dros 90% o'r prentisiaid sicrhau cyflogaeth barhaol neu waith y tu allan i'r Awdurdod.  Yn ogystal, roedd y rhaglen yn cynnwys cysylltiadau cryf â Strategaeth Gorfforaethol bresennol yr Awdurdod a byddai'n rhan annatod o gefnogi'r canlyniadau o dan  agenda Llesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol.

 

Er mwyn sicrhau llwyddiant parhaus y rhaglen cynigiodd yr adroddiad sicrhau cyllid am ddwy flynedd arall a bod lefel bresennol y gydnabyddiaeth ariannol ar gyfer prentisiaid (lefel 2 a 3) yn cael ei hadolygu, er mwyn sicrhau bod yr Awdurdod yn parhau i fod yn gystadleuol ac yn cadw recriwtiaid drwy gydol eu prentisiaeth. Yn ogystal, byddai'r cynnig i ddod yn ganolfan achrededig yn golygu bod yr Awdurdod mewn sefyllfa gref o ran cydweithredu rhanbarthol drwy gynnig y Rhaglen Barod am Waith i awdurdodau lleol cyfagos, a sicrhau ffrwd incwm.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL;

 

9.1   Cael a chytuno ar y cynnig ar gyfer ymestyn y Rhaglen Barod am Waith gan ddefnyddio'r cyllid presennol ac ychwanegu £505,214 er mwyn sicrhau datblygiad y prosiect yn ystod y ddwy flynedd nesaf ;

 

9.2 Drwy gynllunio'r gweithlu, mapio'r anghenion o ran sgiliau ar hyn o bryd ac yn y dyfodol a nodi meysydd lle mae'r galw o ran recriwtio yn y dyfodol a dyrannu adnoddau i gefnogi'r cyfleoedd hyn;

 

9.3 Gweithio'n agos gyda chynlluniau gweithlu'r adrannau i hwyluso datblygiad aml-lefel ymhlith gweithwyr presennol drwy gael cyllid sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru;

 

9.4 Datblygu pobl yn barhaus i sicrhau bod ein gweithlu yn fedrus iawn a'i fod yn cael cymorth yn ystod gyrfa gynnar gweithwyr yng Nghyngor Sir Caerfyrddin, gan fanteisio i'r eithaf ar ffrydiau cyllido posibl;

 

9.5 Cynyddu cyflog prentis i £12k y flwyddyn; gallai'r model wedi'i gostio olygu cyflogi llai o staff ond mae'n golygu defnyddio'r buddsoddiad yn fwy effeithiol;

 

9.6 Gweithredu strategaeth recriwtio gynhwysfawr i gynnwys ymgyrch farchnata drwy'r cyfryngau cymdeithasol;

 

9.7 Sicrhau bod y prosiect yn gynaliadwy drwy gefnogi cyllid ar gyfer swydd Cydgysylltydd Dysgu Seiliedig ar Waith;

 

9.8 Ymchwilio i gyfleoedd i ehangu'n rhanbarthol gyda golwg ar gynnig y Rhaglen Barod am Waith i awdurdodau lleol cyfagos, gan leihau costau a rhoi cyfleoedd i gydweithio.