11 ARDOLL SEILWAITH CYMUNEDOL SIR GAERFYRDDIN DIWEDDARIAD AC ADRODDIAD CYNNYDD PDF 695 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Bu’r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad oedd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd hyd yn hyn mewn perthynas â chyflwyno Ardoll Seilwaith Cymunedol yn Sir Gaerfyrddin. Roedd yr adroddiad hefyd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am natur ddatganoledig yr Ardoll Seilwaith Cymunedol yng Nghymru a'i dyfodol mewn cyd-destun cenedlaethol a oedd yn cynnwys yr adolygiad annibynnol diweddar o'r Ardoll Seilwaith Cymunedol a gomisiynwyd gan yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol. Roedd yr adroddiad yn amlinellu'r newidiadau posibl ar y gweill a'r goblygiadau dilynol.
Gofynnwyd a ellid rhoi sicrwydd er mwyn sicrhau y gofynnir am farn Cynghorwyr Sir mewn modd rhagweithiol, a hynny cyn cytuno ar bwyslais yr arian Adran 106 rhwng y Cyngor Sir a'r datblygwr, drwy ychwanegu hyn at y broses ar gyfer y dyfodol. Dywedodd y Dirprwy Arweinydd y gallai Aelodau gydgysylltu â'r swyddog achos unigol yn ystod y broses ceisiadau cynllunio i ofyn a oedd unrhyw gyfleoedd ar gyfer arian Adran 106.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR:-
11.1 Bod y Wybodaeth Ddiweddaraf am Ardoll Seilwaith Cymunedol Sir Gaerfyrddin a'r Adroddiad Cynnydd yn cael eu derbyn;
11.2 Bod y sefyllfa bresennol mewn perthynas â dyfodol yr Ardoll Seilwaith Cymunedol mewn cyd-destun cenedlaethol a chyd-destun Cymreig yn cael ei nodi;
11.3 Bod cynnydd o ran paratoi Ardoll Seilwaith Cymunedol Sir Gaerfyrddin yn cael ei atal am y tro hyd nes y ceid canlyniadau ystyriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer y dyfodol, yn sgil Deddf Cymru 2017;
11.4 Bod adroddiad arall yn cael ei gyflwyno pan geir syniad clir ynghylch dyfodol yr Ardoll Seilwaith Cymunedol, unrhyw newidiadau i reoliadau'r Ardoll Seilwaith Cymunedol, neu gynigion am dariff newydd yn ei lle;
11.5 Bod y cynnydd hyd yn hyd yn cael ei nodi a bod y sylwadau sydd wedi dod i law yn cael eu defnyddio i lywio unrhyw waith ar yr Ardoll Seilwaith Cymunedol yn y dyfodol neu ar unrhyw beth a ddaw yn ei lle.