10 ADRODDIAD MONITRO BLYNYDDOL 2016/17 CYNLLUN DATBLYGU LLEOL SIR GAERFYRDDIN PDF 602 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried Adroddiad Monitro Blynyddol 2016/17 ynghylch Cynllun Datblygu Lleol Sir Gaerfyrddin, a luniwyd yn unol â darpariaethau Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 a Rheoliadau Cynllun Datblygu Lleol 2005.
Nodwyd bod yn rhaid cyflwyno'r adroddiad hwn i Lywodraeth Cymru erbyn 31 Hydref 2017.
Gofynnwyd a ellid ymgynghori'n ffurfiol â chynghorwyr lleol er mwyn iddynt gyfrannu at yr Adroddiad Monitro Blynyddol. Dywedodd y Dirprwy Arweinydd nad oedd yn ofynnol ymgynghori ynghylch yr Adroddiad Monitro Blynyddol, ond bod yr adroddiad wedi cael ei ystyried yng nghyfarfod diwethaf y Pwyllgor Craffu Cymunedau ar 20 Gorffennaf 2017 a byddai'r adroddiad ar gael ar y wefan ar gyfer sylwadau. Yn ogystal, mewn perthynas â'r adolygiad o'r Cynllun Datblygu Lleol, hysbyswyd yr Aelodau y byddai ymgynghoriad ffurfiol yn cael ei gynnal a fyddai'n cael ei gefnogi gan Gr?p Ymgynghorol.
PENDERFYNWYD ARGYMELL Y CANLYNOL I'R CYNGOR:
10.1
Cael a derbyn cynnwys yr ail
Adroddiad Monitro Blynyddol ar gyfer Cynllun Datblygu Lleol Sir
Gaerfyrddin, y mae angen ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru erbyn 31
Hydref 2017;
10.2
Cychwyn arolwg llawn neu
rannol CDLl Sir Gaerfyrddin yn gynnar:
10.2.1 Ystyried a mynd i'r afael â'r diffyg tir sydd ar gael ar gyfer tai ac ystyried yr ymyriadau angenrheidiol;
10.2.2 Paratoi rhagor o dystiolaeth ar oblygiadau a chywirdeb amcanestyniadau aelwydydd a phoblogaeth is-genedlaethol 2014 a'u hystyried yng ngoleuni'r adolygiad;
10.2.3
Ystyried dosbarthu a
chyflenwi tai a llwyddiant, neu fel arall, y strategaeth, neu ei
helfennau o ran bodloni gofynion tai a nodwyd;
10.3
Cynhyrchu adroddiad
adolygu gan nodi ac esbonio hyd a lled unrhyw newidiadau sydd angen
eu gwneud i'r Cynllun;
10.4 Rhoi awdurdod dirprwyedig i swyddogion wneud addasiadau teipograffyddol neu ffeithiol yn ôl yr angen, i wella eglurder a chywirdeb yr Adroddiad Monitro Blynyddol.