Mater - cyfarfodydd

LOCAL DEVELOPMENT PLAN ANNUAL MONITORING REPORTS

Cyfarfod: 31/07/2017 - Cabinet (eitem 10)

10 ADRODDIAD MONITRO BLYNYDDOL 2016/17 CYNLLUN DATBLYGU LLEOL SIR GAERFYRDDIN pdf eicon PDF 602 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried Adroddiad Monitro Blynyddol 2016/17 ynghylch Cynllun Datblygu Lleol Sir Gaerfyrddin, a luniwyd yn unol â darpariaethau Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 a Rheoliadau Cynllun Datblygu Lleol 2005.

 

Nodwyd bod yn rhaid cyflwyno'r adroddiad hwn i Lywodraeth Cymru erbyn 31 Hydref 2017.

 

Gofynnwyd a ellid ymgynghori'n ffurfiol â chynghorwyr lleol er mwyn iddynt gyfrannu at yr Adroddiad Monitro Blynyddol.  Dywedodd y Dirprwy Arweinydd nad oedd yn ofynnol ymgynghori ynghylch yr Adroddiad Monitro Blynyddol, ond bod yr adroddiad wedi cael ei ystyried yng nghyfarfod diwethaf y Pwyllgor Craffu Cymunedau ar 20 Gorffennaf 2017 a byddai'r adroddiad ar gael ar y wefan ar gyfer sylwadau.  Yn ogystal, mewn perthynas â'r adolygiad o'r Cynllun Datblygu Lleol, hysbyswyd yr Aelodau y byddai ymgynghoriad ffurfiol yn cael ei gynnal a fyddai'n cael ei gefnogi gan Gr?p Ymgynghorol.

 

PENDERFYNWYD ARGYMELL Y CANLYNOL I'R CYNGOR:

 

10.1   Cael a derbyn cynnwys yr ail Adroddiad Monitro Blynyddol ar gyfer Cynllun Datblygu Lleol Sir Gaerfyrddin, y mae angen ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru erbyn 31 Hydref 2017;

10.2   Cychwyn arolwg llawn neu rannol CDLl Sir Gaerfyrddin yn gynnar:

10.2.1   Ystyried a mynd i'r afael â'r diffyg tir sydd ar gael ar gyfer tai ac ystyried yr ymyriadau angenrheidiol;

10.2.2   Paratoi rhagor o dystiolaeth ar oblygiadau a chywirdeb amcanestyniadau  aelwydydd a phoblogaeth is-genedlaethol 2014 a'u hystyried yng ngoleuni'r adolygiad;

10.2.3   Ystyried dosbarthu a chyflenwi tai a llwyddiant, neu fel arall, y strategaeth, neu ei helfennau o ran bodloni gofynion tai a nodwyd;

10.3   Cynhyrchu adroddiad adolygu gan nodi ac esbonio hyd a lled unrhyw newidiadau sydd angen eu gwneud i'r Cynllun;

10.4   Rhoi awdurdod dirprwyedig i swyddogion wneud addasiadau teipograffyddol neu ffeithiol yn ôl yr angen, i wella eglurder a chywirdeb yr Adroddiad Monitro Blynyddol.