Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyfarwyddwr Lle a Seilwaith
Statws Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Ydy
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Ydy
Nodi'r rhesymeg dros dderbyn y Gronfa Bontio ar gyfer Bysiau a gynigir gan Lywodraeth Cymru i ddarparu cymorth ariannol brys i weithredwyr bysiau yn Sir Gaerfyrddin ac Awdurdodau Lleol eraill yn Rhanbarth De-orllewin Cymru.
Cadarnhau derbyn y Gronfa Bontio ar gyfer Bysiau a gynigir gan Lywodraeth Cymru i ddarparu cymorth ariannol brys i weithredwyr bysiau yn Sir Gaerfyrddin ac Awdurdodau Lleol eraill yn Rhanbarth De-orllewin Cymru, ar y sail y bydd angen rhagor o ddeialog gyda Llywodraeth Cymru yn ymwneud â'r effeithiau.
Mae'rDirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi ysgrifennu at bob awdurdod lleol yn gofyn iddynt gadarnhau erbyn 26 Mehefin bod cynlluniau diwygiedig sy'n ymwneud â gwasanaethau bysiau ar draws y rhanbarth, gan gynnwys Sir Gaerfyrddin, wedi cael eu hystyried a'u cytuno. Gwneir y penderfyniad o dan bwerau dirprwyedig cyffredinol oherwydd y cyfyngiadau amser sy'n ei gwneud yn anymarferol i gynnull cyfarfod o'r Cabinet.
Dyddiad cyhoeddi: 23/06/2023
Dyddiad y penderfyniad: 23/06/2023
Effective from: 01/07/2023
Dogfennau Cefnogol: