Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng Nghofnod 8 uchod, ystyried y mater hwn yn breifat gan orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod, gan y byddai'r drafodaeth yn datgelu gwybodaeth eithriedig ynghylch materion ariannol neu faterion busnes unrhyw unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno).
Rhoddodd y Bwrdd Gweithredol ystyriaeth i adroddiad ar gymorth ariannol i Blas Llanelly. Roedd yn un o bum prosiect adfywio allweddol yng Nghanol Tref Llanelli ac roedd angen cymorth i sicrhau bod y prosiect yn cael ei gwblhau a bod gan y Plas ddyfodol cynaliadwy yn y tymor hir. Roedd pwysigrwydd Plas Llanelly i adfywio Canol Tref Llanelli yn cael ei gydnabod.
Cynigiwyd argymhelliad ychwanegol, a chytunwyd arno, sef bod awdurdod dirprwyedig yn cael ei roi i Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol a'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau er mwyn cytuno ar amodau'r grant.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:
9.1 gymeradwyo grant i gefnogi prosiect yr Ymddiriedolaeth/Plas Llanelly;
9.2 bod tâl am werth y grant yn cael ei godi ar Blas Llanelly am gyfnod penodol o hyd at 5 mlynedd;
9.3 bod Cyngor Sir Caerfyrddin yn gofyn am rôl fel sylwedydd ar Fwrdd yr Ymddiriedolwyr;
9.4 bod awdurdod dirprwyedig yn cael ei roi i Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol a'r Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau er mwyn cytuno ar amodau'r grant.
Dyddiad cyhoeddi: 21/03/2017
Dyddiad y penderfyniad: 13/03/2017
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 13/03/2017 - Cabinet
Dogfennau Cefnogol: