Mae Cynllun Gwella Hawliau Tramwy Sir Gaerfyrddin 2019-2029 wedi'i lunio a'i gyhoeddi yn unol ag adran 60 o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy (2000). Mae'r Cynllun Gwella Hawliau Tramwy yn cyflwyno cynllun Sir Gaerfyrddin ar gyfer rheoli, datblygu, a gwella rhwydwaith Hawliau Tramwy Cyhoeddus y Sir yn strategol hyd at 2029.
Yn ystod yr ymgynghoriad â'r Fforwm Mynediad Lleol, nododd y Fforwm angen i'r awdurdod lleol ymrwymo i lunio Strategaeth Farchogaeth Sir Gaerfyrddin i gydnabod y cyfleoedd a'r heriau o ran mynediad ar gyfer marchogaeth a gyrru car a cheffyl ledled y Sir.
Felly mae Strategaeth Farchogaeth i 'hyrwyddo a datblygu rhwydwaith hygyrch at ddefnydd marchogol' wedi cael ei chyhoeddi yng Nghynllun Gwella Hawliau Tramwy Sir Gaerfyrddin 2019-2029.
Mae'r adroddiad yn nodi'r cynnig i fabwysiadu Strategaeth Farchogaeth ar gyfer Sir Gaerfyrddin.
Math o benderfyniad: Key
Statws Penderfyniad: For Determination
Hysbysiad o benderfyniad arfaethedig wedi’i gyhoeddi gyntaf: 21/10/2022
Angen penderfyniad: 4 Tach 2024 Yn ôl Cabinet
Prif Aelod: Gwasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith
Prif Gyfarwyddwr: Cyfarwyddwr Lle a Seilwaith
Adran: Gwasanaethau Corfforaethol
Cyswllt: Daniel John, Pennaeth Seilwaith Amgylcheddol E-bost: DWJohn@carmarthenshire.gov.uk.