Use the below search options at the bottom of the page to find information regarding recent decisions that have been taken by the council’s decision making bodies.
Alternatively you can visit the officer decisions page for information on officer delegated decisions that have been taken by council officers.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio
Gwnaed yn y cyfarfod: 27/05/2026 - Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 03/06/2026
Effective from: 27/05/2026
Penderfyniad:
[Sylwer: Roedd y Cynghorwyr K.V. Broom, K. Davies, J.D. James, P.T. Warlow, D.E. Williams, J. Williams a Mr. M. MacDonald wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach, ac arhosont yn y cyfarfod wrth i'r Pwyllgor ei hystyried.]
Bu'r Pwyllgor yn ystyried Cynllun Archwilio 2026 ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed a gyflwynwyd gan Archwilio Cymru. Nodwyd bod yn rhaid i'r Archwilydd Cyffredinol, fel archwilydd Cronfa Bensiwn Dyfed, gyflawni ei ddyletswyddau a'i rwymedigaethau statudol o dan Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004, a bod y cynllun yn nodi'r gwaith oedd i'w wneud er mwyn cyflawni'r cyfrifoldebau hynny. Yn unol â hynny, rhoddwyd ystyriaeth i'r risgiau, y tîm archwilio, ffioedd, a'r amserlen.
Roedd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol wedi manteisio ar y cyfle i egluro nad oedd y Cwmni Rheoli Buddsoddiadau newydd yn weithredol ar hyn o bryd, hyd nes y daw cymeradwyaeth ffurfiol gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA).
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi Cynllun Archwilio 2026 ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed.
Rheoleiddio cyfeddiant tir ac adeiladau rhwng adrannau'r Awdurdod o dan ddarpariaethau Adran 122 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pennaeth Datblygu Economaidd ac Eiddo
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 17/03/2026
Effective from: 25/03/2026
Penderfyniad:
Cymeradwyo cyfeddiant y safleoedd a nodwyd yn yr adroddiad hwn ar gyfer darparu cartref plant newydd, ynghyd ag ailddatblygu adeiladau ar gyfer tai fforddiadwy.