Mae’r cyfansoddiad yn cyflwyno sut mae’r Cyngor yn gweithredu, sut y gwneir penderfyniadau,a’r gweithdrefnau a ddilynir i sicrhau bod y rhain yn effeithiol, yn dryloyw ac yn atebol i bobl leol. Mae rhai o’r prosesau hyn yn ofynnol gan y gyfraith, tra bo eraill yn fater i’r Cyngor eu dewis.
Rhennir y Cyfansoddiad i 15 o erthyglau sy’n cyflwyno’r rheolau sylfaenol sy’n llywio busnes y Cyngor. Darperir gweithdrefnau a chodau ymarfer mwy manwl mewn rheolau a phrotocolau yn y ddogfen.