Mae Rheoliadau Addysg (Fforymau Derbyn) (Cymru) 2003, yn ei
gwneud yn ofynnol i bob awdurdod lleol yng Nghymru sefydlu Fforwm derbyn
disgyblion.
Mae'r
Fforwm yn gyfrifol am fonitro ein
cydymffurfiad â Chod Derbyniadau Ysgolion 2013. Mae'r fforwm yma’n trafod
effeithiolrwydd trefniadau derbyn disgyblion lleol, ystyried sut i ddelio â
materion anodd ynghylch derbyn disgyblion a chynghori ar ffyrdd i wella
trefniadau.
Mae
aelodau'r Fforwm yn cynnwys aelodau o
ysgolion (penaethiaid a llywodraethwyr) ac aelodau sydd ddim yn ymwneud ag
ysgolion yn uniongyrchol, fel swyddogion y Cyngor, aelodau awdurdodau crefyddol
a chynrychiolwyr o'r gymuned leol. Mae'r rheoliadau'n nodi'r nifer uchaf o
gynrychiolwyr ar gyfer pob grŵp.