Agenda item

ADRODDIAD ARIANNOL

Cofnodion:

Rhoddwyd diweddariad i'r Pwyllgor ar sefyllfa ariannol ERW. Roedd hyn yn cynnwys Cyllideb Refeniw Ddiwygiedig y Tîm Canolog ar gyfer 2016-17, Cyllideb Refeniw Ddrafft y Tîm Canolog ar gyfer 2017-18, Cronfeydd Wrth Gefn, Grantiau, a Datganiad o Gyfrifon a Datganiad Llywodraethu Blynyddol 2016-17.  

 

Tynnodd Swyddog A151 ERW sylw at y ffaith bod y gostyngiad yn y gwariant disgwyliedig ar gyfer 2016-17 yn ganlyniad i'r ffaith bod cyflogau'n is na'r disgwyl, bod elfen o'r cyflogau yn cael ei chymhwyso yn erbyn cyllid grant, a bod y secondai Adnoddau Dynol yn cael ei ariannu'n gyfan gwbl trwy grant. Nodwyd bod llai o ddefnydd na'r disgwyl wedi cael ei wneud o gronfa wrth gefn yr awdurdod lleol.

 

O ran y Gyllideb Refeniw Ddrafft ar gyfer 2017-18, roedd y cynnydd yn y gwariant yn ganlyniad yn bennaf i gostau cyflogau ychwanegol, a hynny oherwydd cynnydd mewn costau byw, cynyddrannau, a swydd ychwanegol yn rhan o'r Tîm Canolog. Roedd y cynnydd mewn costau hwyluso yn ganlyniad i Gytundeb Lefel Gwasanaeth Cyfathrebu newydd. Eglurwyd bod cyllid grant yn cael ei weinyddu mewn modd darbodus nes y byddai symiau a manylion y grantiau wedi dod i law. Petai mwy o gyllid grant na'r disgwyl yn cael ei ddyrannu, cadarnhawyd y gellid cynyddu swm y cyllid a weinyddid, a fyddai'n gostwng swm y cyllid a ddisgwylid gan Awdurdodau Lleol. Tynnwyd sylw at y ffaith nad oedd yr un llythyr grant ffurfiol wedi dod i law, a bod y cyllid grant disgwyliedig yn seiliedig ar drafodaethau'r swyddogion â Llywodraeth Cymru.

 

Eglurwyd bod cyfraniad y chwe awdurdod lleol partner ar sail pro rata yn ôl niferoedd y disgyblion yn nata Stats Cymru. Nodwyd y byddai'n rhaid cadw'r gronfa wrth gefn weithredol o 100k er mwyn mynd i'r afael ag unrhyw fylchau mewn cyllid a gwariant annisgwyl yn y dyfodol

 

Amlinellwyd yr amserlen ar gyfer llunio a chymeradwyo Datganiad o Gyfrifon a Datganiad Llywodraethu Blynyddol ERW ar gyfer 2016-17, i'w cymeradwyo yng nghyfarfod y Cyd-bwyllgor ym mis Gorffennaf 2017. 

 

Gofynnwyd a oedd y ffigurau ar gyfer grantiau a oedd wedi cael eu nodi ar gyfer 2017-18 yn cynnwys unrhyw grantiau yr oedd yn rhaid iddynt gael eu gwario erbyn mis Mawrth 2017. Eglurodd Swyddog A151 ERW fod mwyafrif y dyraniadau grantiau wedi cael eu gwneud fesul blwyddyn ariannol; fodd bynnag, roedd yn rhaid gwario rhywfaint o'r cyllid erbyn mis Mawrth, ac roedd wedi dod i law yn hwyr yn y flwyddyn ariannol.

 

CYTUNWYD YN UNFRYDOL

6.1       derbyn yr adroddiad;

6.2       bod y Gyllideb Gwariant Ddisgwyliedig ar gyfer 2016-17 a'r defnydd o 60k o gronfa wrth gefn yr awdurdod lleol yn cael eu cymeradwyo;

6.3       bod y Gyllideb Ddrafft ar gyfer 2017-18, a oedd yn cynnwys cyfraniad o £250k gan y chwe awdurdod lleol, a'r defnydd o £194k o gronfa wrth gefn yr awdurdodau lleol yn cael eu cymeradwyo;

6.4       bod y ffaith y byddai Cyllideb Refeniw'r Tîm Canolog ar gyfer 2018-19 ymlaen yn seiliedig ar gyfraniadau cynyddol gan y chwe awdurdod lleol, a hynny gan y byddai balans cyfyngedig yn weddill yng nghronfa wrth gefn yr awdurdod lleol, yn cael ei nodi;

6.5       bod y grantiau a oedd wedi'u dyfarnu i ERW ar gyfer 2016-17, yn ogystal â'r grantiau dangosol ar gyfer 2017-18, yn cael eu nodi.

6.6       bod yr amserlen arfaethedig ar gyfer llunio, archwilio a chymeradwyo Datganiad o Gyfrifon a Datganiad Llywodraethu Blynyddol ERW ar gyfer 2016-17 yn cael ei chymeradwyo.

Dogfennau ategol: