Agenda item

DIWEDDARIAD GAN Y CYFARWYDDWR ARWEINIOL A'R RHEOLWR GYFARWYDDWR

Cofnodion:

Rhoddwyd diweddariad ar lafar ar weithgareddau i'r Pwyllgor gan Gyfarwyddwr Arweiniol a Rheolwr Gyfarwyddwr ERW.

 

Eglurwyd bod unigolyn annibynnol, a fu'n Gyfarwyddwr Addysg yng Nghyngor Caerffili, wedi cael ei gomisiynu i adolygu strwythur a chapasiti ERW. Diben yr adolygiad oedd sicrhau bod y model cywir ar waith ar gyfer y dyfodol, yn enwedig gyda golwg ar ddatblygu'r cwricwlwm Dyfodol Llwyddiannus newydd. Nodwyd y gallai fod rhai newidiadau o ran cyflogaeth a nifer yr Ymgynghorwyr Her a'r staff cymorth yn yr ardal.

 

Dywedwyd bod rhai cyfarfodydd cynhyrchiol wedi cael eu cynnal ag Estyn ynghylch newidiadau i'r prosesau arolygu, er mwyn sicrhau eu bod yn cyd-fynd yn well â'r ymweliadau ag ysgolion a oedd eisoes yn cael eu cynnal. Nodwyd hefyd fod Estyn yn barod i drafod mesurau atebolrwydd.

 

Mynegwyd pryder yngl?n â bod Lefel 2+ yn ffocws addysgol cenedlaethol, a'r effaith yr oedd hyn yn ei chael ar ddisgyblion mwy abl a thalentog. Gofynnwyd sut yr oedd ERW yn bwriadu mynd i'r afael â hyn. Cytunwyd bod hyn yn wir, gan fod y trothwy wedi cael ei osod ar radd C, ac y byddai ysgolion yn canolbwyntio ar geisio sicrhau bod disgyblion yn cyflawni'r radd hon. Hefyd, roedd dangosyddion cynnar canlyniadau'r PISA yn dangos mai nifer bach o blant yng Nghymru oedd yn cyflawni'r deilliannau uwch (lefel 7). Cydnabyddid ei bod yn bwysig manteisio i'r eithaf ar botensial pob plentyn, ac y byddai darn o waith yn cael ei wneud i geisio sicrhau bod y broses o osod targedau yn cael ei defnyddio mewn ffordd fwy dynamig, yn hytrach na'i bod yn ymarfer ôl-weithredol. Eglurwyd hefyd fod angen sicrhau bod systemau tracio mewn ysgolion yn gweithio'n dda, fel eu bod yn nodi pa gymorth yr oedd ar ddisgyblion ei angen. Nodwyd bod angen i Lywodraeth Cymru fod yn glir ynghylch yr hyn a ddisgwylid yn genedlaethol. Er enghraifft, er mwyn i ysgolion fynd ati i sicrhau bod disgyblion yn cyflawni'r canlyniadau uwch, byddai arnynt angen adnoddau ychwanegol i sicrhau nad oedd hynny ar draul disgyblion eraill.

 

Gofynnwyd sut y gellid cysoni'r setiau sgiliau gwahanol ar gyfer PISA a TGAU. Eglurodd Cyfarwyddwr Arweiniol ERW y dylai'r cwricwlwm newydd fod yn fwy cyson er mwyn datblygu'r ddwy set sgiliau a sicrhau eu bod yn cynnwys sgiliau trosglwyddadwy ar gyfer y gweithle. Nododd Rheolwr Gyfarwyddwr ERW fod y cwricwlwm newydd yn gyfle cyffrous i newid addysg yng Nghymru. Nodwyd bod gwaith da yn cael ei dreialu mewn ysgolion arloesi. Roedd sicrwydd wedi cael ei roi i ysgolion nad oeddent yn ysgolion arloesi na fyddent yn cael eu gadael ar ôl. Mynegwyd pryder nad oedd colegau hyfforddi athrawon yn ymwybodol o ofynion y cwricwlwm newydd. Cytunwyd y byddai diweddariad ar ddatblygiad y cwricwlwm newydd yn cael ei roi mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

Awgrymwyd bod ysgolion yn chwarae siawns er mwyn ceisio sicrhau'r nifer mwyaf o bwyntiau ar gyfer plentyn, yn hytrach nag ystyried ansawdd y cymwysterau a ddilynid. Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr ERW eu bod yn ymwybodol o rai pryderon, a oedd yn cael eu hystyried wrth i ERW wneud penderfyniadau ynghylch y broses gategoreiddio.

 

Rhoddwyd adborth o'r Gynhadledd Gwella Ysgolion a'r Adolygiad gan Gymheiriaid a gynhaliwyd yn Sir Benfro. Teimlwyd bod yr Adolygiad gan Gymheiriaid wedi bod yn fuddiol iawn, ac roedd gan awdurdodau lleol eraill ddiddordeb mewn cynnal ymarferion tebyg. Roedd yr aelodau a oedd wedi bod i'r Gynhadledd Gwella Ysgolion wedi ei gweld yn ddefnyddiol, ac roeddent yn cydnabod bod llawer o waith wedi'i wneud i gynnal y gynhadledd. Nodwyd y byddai Estyn yn adolygu manteision y cynadleddau ar ôl i'r tri chynllun peilot gael eu cwblhau.

 

Nodwyd bod Adroddiad Blynyddol Estyn wedi cael ei gamddehongli gan y wasg, a bod y pedwar rhanbarth wedi cwblhau darn o waith i egluro'r wybodaeth y tu ôl i'r penawdau. Roedd yr wybodaeth hon ar gael ar wefan ERW, a chytunwyd y byddai'n cael ei rhannu â'r Pwyllgor.

 

CYTUNWYD bod yr adroddiad yn cael ei dderbyn.

Dogfennau ategol: