Cofnodion:
[NODER: Gan eu bod wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach, gadawodd y Cynghorwyr J.P. Hart, E. Rees, P.M. Hughes, H. Jones, A. Evans, J.D. James, S.L. Rees, H.A.L. Evans, J. Lewis, P. Cooper, D. Nicholas, E. Skinner, G.B. Thomas a S.A. Allen y cyfarfod cyn i'r eitem gael ei hystyried a chyn penderfynu arni.]
Rhoddwyd gwybod i'r Cyngor fod y Cabinet, yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 13 Ionawr 2025 [gweler cofnod 9 o'r cofnodion], wedi ystyried Cynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai 2025-28 Rhaglen Buddsoddiadau Tai Sir Gaerfyrddin, sy'n nodi gweledigaeth a manylion Rhaglen Buddsoddiadau Tai'r Cyngor dros y tair blynedd nesaf, er mwyn cynnal ei gynlluniau gwella stoc tai a'r rhaglen adeiladu newydd, a darparu mwy o dai fforddiadwy i helpu i ddiwallu'r galw digynsail am dai cymdeithasol yn y Sir.
Bu i'r Dirprwy Arweinydd a'r Aelod Cabinet dros Gartrefi grynhoi pum thema allweddol y cynllun busnes a rhoi trosolwg i ni ar y blaenoriaethau a fyddai'n diffinio i ba gyfeiriad oedd yr Awdurdod yn mynd dros y tair blynedd nesaf, fel a ganlyn:
· Gwella ansawdd a chynaliadwyedd stoc dai'r Cyngor drwy raglenni buddsoddi, datblygu a chynnal a chadw wedi'u targedu;
· Gwella boddhad cwsmeriaid trwy ddarparu gwasanaethau ymatebol ac effeithlon;
· Cefnogi llesiant ac annibyniaeth ein preswylwyr drwy wasanaethau cymorth wedi'u teilwra;
· Hyrwyddo ymgysylltiad a chyfranogiad cymunedol i sicrhau bod gwasanaethau'r Cyngor yn cael eu llunio gan anghenion a dyheadau preswylwyr;
· Sicrhau bod buddsoddiadau a datblygiadau'r Cyngor yn gwneud y mwyaf o flaenoriaethau ac amcanion strategol ehangach y Cyngor.
Roedd y Pwyllgor Craffu - Cymunedau, Cartrefi ac Adfywio hefyd wedi ystyried a chymeradwyo'r cynigion yn ei gyfarfod ar 7 Ionawr 2025, fel rhan o'r broses ymgynghori ynghylch y gyllideb.
Nodai'r adroddiad fyddai'r incwm oedd yn cael ei dderbyn drwy renti tenantiaid a ffynonellau cyllid eraill yn galluogi'r awdurdod i lunio rhaglen buddsoddiadau gwerth mwy na £282m (Cyfalaf - £114m a Refeniw - £168m) i gyflawni gwasanaethau oedd yn gynhwysol a chynaliadwy dros y tair blynedd nesaf.
Roedd y cynllun yn seiliedig ar gynnydd rhent rhagamcanol i 2.7% ar gyfer 2025/26, yn unol â Pholisi Rhent presennol Llywodraeth Cymru a osodwyd gan gyfradd chwyddiant Medi o 1.7%. Byddai'r rhan fwyaf o denantiaid yn derbyn cynnydd cyfartalog mewn rhent o 2.62%, a bernid bod hyn o fewn terfynau fforddiadwyedd tenantiaid.
Yn ogystal, byddai'r cynllun yn galluogi'r Cyngor i wneud cais am grant Lwfans Atgyweirio Mawr Llywodraeth Cymru, sy'n cyfateb i £6.2m am 2025/26.
Mewn ymateb i ymholiad ynghylch gosod paneli solar, cadarnhaodd y Dirprwy Arweinydd a'r Aelod Cabinet dros Gartrefi fod yr Awdurdod yn defnyddio dull ffabrig yn gyntaf o wella effeithlonrwydd ynni ei stoc dai yn unol â gofynion Llywodraeth Cymru. Eglurwyd, er bod y dull hwn yn cynyddu effeithlonrwydd thermol cartrefi cyn cyflwyno technoleg a systemau gwresogi gwell, gallai defnyddio dull nad oedd yn un ffabrig yn gyntaf arbed costau i'r Awdurdod. Felly, roedd asesiad effaith ar waith i werthuso'r ddau ddull.
Mewn ymateb i sylwadau ar argaeledd byngalos ar gyfer yr henoed, pwysleisiodd y Dirprwy Arweinydd a'r Aelod Cabinet dros Gartrefi fod angen sicrhau llety addas i ddiwallu anghenion pob gr?p oedran yn y sir a bod yr Awdurdod yn helpu i fodloni gofynion tenantiaid lle bo hynny'n bosibl. Roedd gwaith hefyd yn mynd rhagddo i ymchwilio i gyfleoedd datblygu tir addas yn unol â Chynllun Cyflawni Adfywio a Datblygu Tai yr Awdurdod.
O ran darparu llety dros dro, eglurwyd y byddai'r Cyngor yn edrych ar y posibilrwydd o brynu eiddo preifat ac mai ei fwriad oedd darparu cymorth priodol i denantiaid ag anghenion cymhleth er mwyn rhoi bod i well canlyniadau i unigolion a theuluoedd.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fabwysiadu'r argymhellion canlynol gan y Cabinet:
6.5.1 |
cadarnhau'r weledigaeth, y blaenoriaethau a'r meysydd i'w gwella ar gyfer rhaglenni buddsoddiadau tai y Cyngor dros y tair blynedd nesaf;
|
6.5.2 |
cytuno y gellir cyflwyno Cynllun Busnes 2025/26 i Lywodraeth Cymru;
|
6.5.3 |
nodi ymagwedd y Cyngor at reoli ystadau a thenantiaethau, gan sicrhau bod swyddogion tai yn fwy gweladwy a hygyrch ar ystadau'r Cyngor, gan gydbwyso'r cymorth sydd ei angen ar denantiaid a'r angen i gymryd camau gorfodi pan fo angen;
|
6.5.4 |
nodi ymrwymiad y Cyngor i weithio gyda thenantiaid i helpu i lunio gwasanaethau yn y dyfodol a gwella lefelau bodlonrwydd tenantiaid;
|
6.5.5 |
nodi ymrwymiad y Cyngor i sicrhau'r safon uchaf o gydymffurfiaeth â gofynion polisïau deddfwriaethol, rheoleiddiol a lleol;
|
6.5.6 |
cadarnhau ymrwymiad y Cyngor i wella'r gwasanaeth atgyweirio a lleihau'r ôl-groniad o atgyweiriadau nad ydynt yn rhai brys;
|
6.5.7 |
nodi ymrwymiad y Cyngor i gadw nifer yr eiddo gwag mor isel â phosibl;
|
6.5.8 |
nodi blaenoriaeth y Cyngor i gynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy ym mhob ardal o'r Sir, gan gynnwys adeiladu safleoedd mawr ar gyfer tai Cyngor yn unig, cynyddu'r cyflenwad o lety ar gyfer pobl sengl / llety â chymorth dros dro / llety arbenigol a chefnogi mentrau adfywio ehangach gan gynnwys Canol Trefi a Thyisha;
|
6.5.9 |
nodi ymrwymiad y Cyngor i wneud ein holl gartrefi yn fwy ynni effeithlon i denantiaid trwy gynyddu inswleiddio thermol, gosod paneli solar drwy ein rhaglenni gwaith a gynlluniwyd a chefnogi egwyddorion carbon sero net y Cyngor;
|
6.5.10 |
nodi pwysigrwydd y buddsoddiad sydd wedi'i gynnwys yn y cynllun a'i rôl o ran ysgogi'r economi leol a chreu swyddi a chyfleoedd hyfforddi lleol. |
Dogfennau ategol: