Agenda item

CYFRIF REFENIW TAI A PHENNU RHENTI TAI 2025/26

Cofnodion:

[NODER:  Gan eu bod wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach, gadawodd y Cynghorwyr J.P. Hart, E. Rees, P.M. Hughes, H. Jones, A. Evans, J.D. James, S.L. Rees, H.A.L. Evans, J. Lewis, P. Cooper, D. Nicholas, E. Skinner, G.B. Thomas a S.A. Allen y cyfarfod cyn i'r eitem gael ei hystyried a chyn penderfynu arni.]

 

Dywedwyd wrth y Cyngor fod y Cabinet, yn ei gyfarfod ar 13 Ionawr 2025 [gweler cofnod 8], wedi adolygu cynigion y Cyfrif Refeniw Tai a Phennu Rhenti Tai ar gyfer 2025/26 cyn i'r Cyngor eu hystyried. Roedd yr adroddiad, a baratowyd gan Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol ar y cyd â swyddogion o'r Adran Cymunedau, yn dod â'r cynigion diweddaraf ynghyd ar gyfer Cyllidebau Refeniw a Chyfalaf y Cyfrif Refeniw Tai am 2025/26 i 2027/28, ac yn nodi'r cynnydd arfaethedig i renti tai ar gyfer 2025/26.

 

Wrth gyflwyno'r adroddiad, mynegodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau yr heriau wynebai'r Awdurdod o ran sicrhau cydbwysedd rhwng pennu'r rhent o fewn polisi presennol y Llywodraeth ar lefel fforddiadwy i denantiaid, ac, ar yr un pryd, cyflawni ei ddyheadau tai hefyd.  At hynny pwysleisiwyd, petai'r Cyngor yn mabwysiadu argymhellion y Cabinet, byddai hynny'n gynnydd cyfartalog o 2.7% i'r rhent tai, a oedd yn unol â chap Llywodraeth Cymru.  Eglurodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau y byddai'r cynnydd yn cyfateb i rent tai cyfartalog o £108.59 yr wythnos i'w denantiaid, a oedd yn un o'r lefelau rhent isaf o blith yr 11 Awdurdod yng Nghymru oedd â stoc dai, ac yn sylweddol is na rhenti tai'r sector preifat.

 

Cyfeiriwyd at y polisi 'dim troi allan' y gallai'r Awdurdod ei roi ar waith mewn amgylchiadau perthnasol. Wrth gloi, dywedodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau fod y cynigion yn ceisio cydbwyso'r pwysau ar aelwydydd yn ystod argyfwng costau byw â'r angen i barhau â Rhaglen Datblygu Tai yr Awdurdod, tra'n sicrhau bod eiddo'n parhau i gael ei gynnal i Safon Tai Sir Gaerfyrddin a Mwy (CHS+).  

 

PENDERFYNWYD fabwysiadu'r argymhelliad canlynol gan y Cabinet:

 

6.4.1

cynyddu'r rhent tai cyfartalog gan 2.7% (£2.85) fesul preswylfa yr wythnos oddi mewn i derfynau Polisi Rhenti Tai Cymdeithasol Llywodraeth Cymru (gan gynnwys y camau cynnydd ar gyfer tenantiaid sy'n is na'r rhenti targed). Mae hyn yn creu Cynllun Busnes cynaliadwy, yn cynnal Safon Tai Sir Gaerfyrddin a Mwy ac yn cyflawni ein Cynllun Cyflawni ar gyfer Adfywio a Datblygu Tai;

 

6.4.2

parhau â'r camau cynnydd mwyaf posibl o £1 a ganiateir ar gyfer rhenti sy'n is na'r rhenti arfaethedig ar gyfer pob math o stoc;

 

6.4.3

cynyddu rhenti garejis 2.7% o £9.60 i £9.86 a sylfeini garejis o £2.22 i £2.28;

 

6.4.4

rhoi'r Polisi Taliadau am Wasanaethau diwygiedig ar waith er mwyn sicrhau bod y tenantiaid sy'n cael budd o wasanaethau penodol yn talu am y gwasanaethau hynny;

 

6.4.5

cynyddu'r taliadau am ddefnyddio ein gwaith trin carthffosiaeth yn unol â'r cynnydd mewn rhenti;

 

6.4.6

cymeradwyo Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai am 2025/28 (cyllidebau dangosol oedd rhai 2026/27 a 2027/28), fel y nodwyd yn Atodiad A;

 

6.4.7

cymeradwyo'r Rhaglen Gyfalaf arfaethedig a'r cyllido perthnasol ar gyfer 2025/26, a'r gwariant mynegiannol a bennwyd ar gyfer 2026/27 hyd 2027/28, fel y'u nodwyd yn Atodiad B.

 

Dogfennau ategol: