Agenda item

CWESTIWN GAN MS HSIU-MIEN WU I'R CYNGHORYDD ALED VAUGHAN-OWEN - YR AELOD CABINET DROS NEWID HINSAWDD, DATGARBONEIDDIO A CHYNALIADWYEDD

"Dangosodd astudiaeth ddiweddar a gyhoeddwyd yn Nature Food fod deietau sy'n seiliedig ar blanhigion yn arwain at 75% yn llai o allyriadau nwyon t? gayer, llygredd d?r a defnydd tir na deietau sy'n cynnwys mwy na 100g o gig y dydd. Dangoswyd hefyd bod deietau sy'n seiliedig ar blanhigion yn lleihau dinistr i fywyd gwyllt 66% a'r defnydd o dd?r 54%. A all Cyngor Sir Caerfyrddin estyn allan i Gyngor Caeredin i ddysgu am eu profiadau o gefnogi'r Cytuniad Deiet Planhigion a gwneud asesiad effaith fel y gwnaethant?"

Cofnodion:

"Dangosodd astudiaeth ddiweddar a gyhoeddwyd yn Nature Food fod deietau sy'n seiliedig ar blanhigion yn arwain at 75% yn llai o allyriadau nwyon t? gwydr, llygredd d?r a defnydd tir na deietau sy'n cynnwys mwy na 100g o gig y dydd. Dangoswyd hefyd bod deietau sy'n seiliedig ar blanhigion yn lleihau dinistr i fywyd gwyllt 66% a'r defnydd o dd?r 54%. A all Cyngor Sir Caerfyrddin estyn allan i Gyngor Caeredin i ddysgu am eu profiadau o gefnogi'r Cytuniad Deiet Planhigion a gwneud asesiad effaith fel y gwnaethant?”

 

Ymateb gan y Cynghorydd Aled Vaughan Owen – Yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd:

 

“Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn cydnabod canfyddiadau'r astudiaeth a gyhoeddwyd yn Nature Food a'r modd maent yn cydweddu â'r angen am systemau bwyd cynaliadwy. Fel rhan o'n Strategaeth Bwyd Cynaliadwy newydd, rydym yn dod â rhanddeiliaid o bob sector ynghyd i greu cynllun uchelgeisiol ac ysbrydoledig ar gyfer y sir hon.

 

Trwy ein Strategaeth Bwyd Lleol, rydym eisoes wedi dechrau dadansoddi effaith ein systemau bwyd lleol, o'r cynhyrchu i'r gweini. Mae ein hasesiadau cychwynnol wedi canolbwyntio ar gaffael cyhoeddus mewn ysgolion, cyfleusterau hamdden a chartrefi gofal. Nod y dadansoddiadau hyn yw nodi'r effaith amgylcheddol ac economaidd gyfredol a nodi cyfleoedd ar gyfer newid ystyrlon.

 

Yn sail i'n hymagwedd mae ein Datganiadau Argyfwng Natur a Hinsawdd, a chaiff ei dywys gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Mae hyn yn sicrhau bod unrhyw newidiadau o fudd i'n heconomi leol, i'r amgylchedd ac i lesiant y gymuned. Un cam pwysig yw ail-ddylunio bwydlen ein hysgolion cynradd, er mwyn blaenoriaethu cig a llysiau cynaliadwy o ffermydd Cymru a Phrydain, gan gynnwys o'n fferm sirol ni ein hunain yn Bremenda Isaf. Mae Bremenda Isaf yn arloesi trwy gynhyrchu bwyd adferol cynaliadwy "mewnol" sy'n dal carbon, yn gwella bioamrywiaeth, ac yn cefnogi adferiad natur.

 

Rydym wedi adolygu modelau arfer gorau, gan gynnwys y rheiny o'r Alban megis Caeredin yn cymeradwyo'r Cytuniad Planhigion. Er ein bod yn croesawu cydweithio ac asesiad effaith integredig fel un Caeredin, mae ein tirwedd wledig ac amaethyddol yn gofyn am ymagwedd fwy soffistigedig. Mae'n rhaid i siroedd gwledig fel Sir Gaerfyrddin gydbwyso cynaliadwyedd â'r heriau a'r cyfleoedd unigryw sy'n perthyn i gefnogi cymunedau ffermio lleol.

 

Mae tua 85% o'r allyriadau nwyon t? gwydr o gynhyrchion seiliedig ar anifeiliaid yn deillio o ddulliau cynhyrchu a mewnbynnau cysylltiedig, sy'n amrywio'n fawr. Mae Sir Gaerfyrddin mewn sefyllfa unigryw i gefnogi bwydydd cynaliadwy, lleol sy'n seiliedig ar anifeiliaid, gan leihau ar yr un pryd y ddibyniaeth ar fewnforion. Er bod y Cytuniad Planhigion yn egwyddorol, nid oes ganddo'r hyblygrwydd angenrheidiol i gefnogi economïau gwledig fel ein rhai ni. 

 

O ystyried y pethau hyn, rydym yn croesawu'r cyfle i gydweithio â'r holl Gynghorau i ddysgu o'u profiadau ac i rannu ein profiadau ni, wrth eiriol dros asesiad effaith integredig a lleol wedi'i deilwra i gyd-destun penodol Sir Gaerfyrddin.”

 

Cwestiwn atodol gan Ms Hsiu-Mien Wu:

 

“Rwy'n credu bod gan Gyngor Sir Caerfyrddin y gallu i wneud mwy i helpu leihau oeri'r blaned trwy gymeradwyo'r Cytuniad Planhigion ac ymarfer mewn colegau, ysgolion ac ysbytai.  Hoffwn i weld hyn yn digwydd cyn gynted â phosibl.”

 

Ymateb gan y Cynghorydd Aled Vaughan Owen – Yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd:

 

“Mae angerdd a gwybodaeth Ms Wu ynghylch yr angen dybryd i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd yn glir, ac rwy'n hapus i gwrdd a thrafod sut y gallwn gynnwys y gymuned ehangach wrth lunio ein hymagwedd sirol at fynd i'r afael â sefyllfa ofidus byd natur”.