Cofnodion:
[Sylwer: Datganodd y Cynghorwyr K. V. Broom ac A. Evans fuddiant yn yr eitem hon ac arhosodd y ddau yn y cyfarfod tra bo'r Pwyllgor yn trafod yr eitem ac yn pleidleisio yn ei chylch].
Bu'r Pwyllgor yn ystyried Datganiad Cyfrifon 2023/24 ar gyfer Cyngor Sir Caerfyrddin, a oedd wedi'i baratoi yn unol â Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014 (fel y'u diwygiwyd yn 2018).
Yn unol â chanllawiau cyfredol Llywodraeth Cymru, roedd yn ofynnol i'r Cyngor gyhoeddi ei gyfrifon archwiliedig erbyn 30 Tachwedd 2024.
Rhoddwyd trosolwg i'r Pwyllgor o'r pwyntiau amlwg yn y Datganiad Cyfrifon a oedd yn crynhoi sefyllfa ariannol yr Awdurdod ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2024, ac a oedd yn cynnwys y diwygiadau y cytunwyd arnynt gydag Archwilio Cymru fel rhan o'i archwiliad.
Mewn perthynas â Chronfa'r Cyngor, cadarnhawyd nad oedd unrhyw newidiadau wedi eu gwneud i'r Gronfa Gyffredinol Wrth Gefn na balans y Cyfrif Refeniw Tai ar ddiwedd y flwyddyn.
Dywedodd yr adroddiad, er gwaethaf cefndir yr hinsawdd macro-economaidd bresennol, fod statws ariannol cyffredinol yr Awdurdod wedi'i gynnal ar lefel gyson.
I gloi, diolchodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol i Bennaeth y Gwasanaethau Ariannol a'i dîm am eu gwaith rhagorol i baratoi'r Datganiad Cyfrifon.
Rhoddwyd sylw i'r materion/sylwadau a godwyd gan y Pwyllgor, fel a ganlyn:-
· Mewn ymateb i ymholiad ynghylch y dyfarniadau cyflogau athrawon nad ydynt wedi'u cyllido a gyhoeddwyd yn 2023 a'r sefyllfa yn y dyfodol, cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol fod y dyfarniadau uwch na'r disgwyl wedi arwain at ddiffyg a oedd wedi'i gynnwys o fewn cyllideb sylfaenol ysgolion o fis Ebrill 2024. Cadarnhawyd bod y cyngor yn aros am eglurhad gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â chyllid o ran y dyfarniad cyflog athrawon o 5.5% a gyhoeddwyd ym mis Medi 2024.
· Wrth roi diweddariad i'r Pwyllgor, dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol fod y cynnydd yng nghyfraddau cyfraniad pensiwn cyflogwr sy'n deillio o bensiynau Athrawon a Diffoddwyr Tân wedi arwain at ddiffyg ariannol sylweddol i'r cyngor ers mis Ebrill 2024. Adroddwyd bod trafodaethau'n parhau rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.
· Yng ngoleuni'r gorwariant sylweddol a adroddwyd yn y datganiadau ariannol (ar gyfer ysgolion ac ar lefel adrannol), ynghyd â difrifoldeb tebygol y sefyllfa ariannol yn y dyfodol, pwysleisiodd y Pwyllgor yr angen i'r Cyngor fod yn wyliadwrus o'r rhesymau sylfaenol dros orwario, nodi tueddiadau sylfaenol a phenderfynwyd ei fod yn cael rhagor o wybodaeth am y meysydd sydd dan bwysau parhaus. Yn unol â hynny, mynegwyd fod angen gwneud trefniant, a allai gynnwys ystyried adroddiadau monitro cyllideb chwarterol, er mwyn galluogi'r Pwyllgor i gyflawni ei gyfrifoldebau o ran monitro perfformiad ariannol a chael sicrwydd mewn perthynas â'r camau a gymerwyd gan y cyngor i reoli gorwario. Cytunwyd y byddai'r mater yn cael ei drafod ymhellach yn y gweithdy a drefnwyd ar gyfer yr hydref a fyddai'n ystyried adolygiad manwl o sefyllfa gyllidebol y flwyddyn bresennol a'r goblygiadau ariannol a wynebai gwasanaethau'r Cyngor ac ysgolion.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo Datganiad Cyfrifon 2023/24 wedi'i archwilio ar gyfer Cyngor Sir Caerfyrddin.
Dogfennau ategol: