Agenda item

ARCHWILIO CYMRU: 'CRACIAU YN Y SYLFEINI' - DIOGELWCH ADEILADAU YNG NGHYMRU

Cofnodion:

[Sylwer: Ar ôl datgan buddiant yn gynharach yn yr eitem hon, arhosodd y Cynghorydd A. Evans yn y cyfarfod tra bo'r Pwyllgor yn trafod yr eitem ac yn pleidleisio yn ei chylch. Datganodd y Cynghorwyr K.V. Broom a D.E. Williams fuddiant yn yr eitem hon a gadawsant y cyfarfod tra bo'r Pwyllgor yn trafod yr eitem ac yn pleidleisio yn ei chylch].

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad cenedlaethol Archwilio Cymru a oedd yn adolygu'r cynnydd a wnaed gan Lywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a'u partneriaid allweddol wrth roi gofynion Deddf Diogelwch Adeiladu 2022 ar waith.

 

Roedd adolygiad Archwilio Cymru yn canolbwyntio ar asesu parodrwydd cyrff i ymgymryd â’u cyfrifoldebau newydd ac estynedig, cydnerthedd gwasanaethau presennol, a chadernid systemau sicrhau diogelwch adeiladau. Bu'r Pwyllgor yn ystyried canfyddiadau'r adroddiad, a nodwyd mewn 3 rhan fel a ganlyn:

 

·       Roedd rhan 1 yn adolygu'r blaenoriaethau a osodwyd gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â'r Ddeddf a chanfuwyd bod Llywodraeth Cymru wedi rhoi blaenoriaeth i ymateb i drychineb Grenfell, gan weithio gyda Llywodraeth y DU.

 

·       Roedd rhan 2 yn adolygu cryfder gwasanaethau rheoli adeiladu a gorfodi awdurdodau lleol, effeithiolrwydd y drefn pennu ffioedd a sut mae gwasanaethau'n newid i gryfhau cydnerthedd. Daeth Archwilio Cymru i'r casgliad, fel proffesiwn, bod rheoli adeiladu a diogelwch adeiladu yn wynebu heriau staffio sylweddol.

 

·       Roedd rhan 3 yn archwilio trefniadau sicrhau diogelwch adeiladau. Canfu Archwilio Cymru fod diffyg fframwaith cenedlaethol i fonitro a
gwerthuso gwasanaethau rheoli adeiladu a diogelwch adeiladau’n
golygu nad yw awdurdodau lleol a’u partneriaid yn gweithio i fesurau
deilliant, targedau na meincnodau priodol y cytunwyd arnynt.

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried ymateb y Cyngor a atodwyd wrth yr adroddiad a oedd yn ceisio mynd i'r afael â'r 4 argymhelliad allweddol a oedd yn deillio o ganfyddiadau'r archwiliad sy'n berthnasol i Lywodraeth Leol. Nodwyd bod 1 argymhelliad wedi'i gwblhau hyd yma, a'r nod yw cwblhau'r 3 arall erbyn mis Ebrill 2025. Daeth Cynrychiolydd Archwilio Cymru i'r casgliad bod Archwilio Cymru yn fodlon bod y cyngor wedi ystyried y canfyddiadau a'r argymhellion yn briodol.

 

Rhoddwyd sylw i'r sylwadau a godwyd gan y Pwyllgor, fel a ganlyn:

 

 

  • Cydnabu'r Aelodau fod casgliadau allweddol yr adroddiad cenedlaethol yn creu darlun annifyr.

 

  • O ystyried arwyddocâd y materion a godwyd yn yr adroddiad cenedlaethol, gwnaed cais am gyflwyno adroddiad i'r Pwyllgor yng ngwanwyn 2025 i roi sicrwydd bod ymateb y Cyngor wedi'i gwblhau.

 

  • Mewn ymateb i sylwadau a wnaed gan y Cadeirydd, cyfeiriodd Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol sylw'r Pwyllgor at baragraff 241 o'r adroddiad a oedd yn nodi bod Rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol gyhoeddi datganiadau ariannol blynyddol a oedd, o leiaf, yn datgelu'r costau y gellir codi tâl amdanynt a'r incwm a ddaw o hynny, unrhyw warged neu ddiffyg, a'u bod yn cael eu cyhoeddi o fewn chwe mis i ddiwedd y flwyddyn ariannol a'u bod yn cael eu cymeradwyo gan y swyddog Adran 151. Er bod yr Awdurdod wedi methu â bodloni'r gofynion hyn, rhoddwyd sicrwydd i'r Pwyllgor y byddai'r mater yn cael sylw yn y dyfodol.

 

  • Rhoddodd y Rheolwr Rheoli Adeiladu wybod i'r Pwyllgor am yr heriau staffio ac adnoddau sy'n wynebu'r Cyngor a'r proffesiwn yn gyffredinol, a rhoddodd drosolwg o'r mesurau sy'n cael eu harchwilio i fynd i'r afael â'r materion hyn, a oedd yn cynnwys uwchsgilio staff, cyfleoedd recriwtio a chydweithio ag Awdurdodau Lleol eraill i rannu adnoddau arbenigol. O ystyried y gofyniad i sicrhau cynllunio olyniaeth effeithiol a chadw gweithwyr o fewn y gwasanaeth yn y dyfodol, gofynnodd y Pwyllgor i'r mater gael ei gynnwys yn y gofrestr risg gorfforaethol i roi sicrwydd o gapasiti'r cyngor i gyflawni ei ddyletswyddau yn hyn o beth.

 

  • Mewn ymateb i gais, nododd y Rheolwr Rheoli Adeiladu y byddai copi o'r ddogfen dadansoddi risg a baratowyd gan y cyngor yn cael ei ddosbarthu i'r Pwyllgor drwy e-bost.

 

  • Cyfeiriwyd at ymateb y cyngor i argymhelliad 6 yr adroddiad, lle gwnaed cais i'r cyngor adolygu ei ffioedd yn flynyddol er mwyn sicrhau eu bod yn adlewyrchu cost wirioneddol gwasanaethau. Cytunwyd y dylid gwneud hynny.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

 

3.2.1

Nodi canfyddiadau ac argymhellion adroddiad cenedlaethol Archwilio Cymru;

 

3.2.2

Nodi ymateb Cyngor Sir Caerfyrddin i argymhellion yr adroddiad cenedlaethol sy'n berthnasol i'r Cyngor.

 

3.2.3

Bod adroddiad dilynol yn cael ei ystyried gan y Pwyllgor yng ngwanwyn 2025 i roi sicrwydd bod yr argymhellion perthnasol i'r Cyngor wedi'u cwblhau.

 

3.2.4

Cynnwys Rheoli Adeiladu yn y Gofrestr Risg Gorfforaethol.

 

Dogfennau ategol: