Agenda item

CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD KEVIN MADGE I'R CYNGHORYDD ALUN LENNY - YR AELOD CABINET DROS ADNODDAU

“A all yr Aelod Cabinet roi datganiad ar brynu hen siop Wilko's ym Mharc y Brodyr Llwyd yng Nghaerfyrddin.  Mae miliynau yn mynd i gael eu gwario ar siop Debenhams yn y flwyddyn ariannol nesaf, ond does gennych chi ddim arian i'w fuddsoddi mewn ysgolion yn Rhydaman a Llanelli, na chyllid chwaith ar gyfer theatr y Glowyr yn Rhydaman ac adeiladau eraill sy'n mynd â'u pen iddynt mewn ardaloedd eraill.

 

Rwy'n herio aelodau'r cabinet i ddweud beth yw cost prynu'r hen Wilko's i'r trethdalwyr a phwy wnaeth y penderfyniad i brynu'r siop”.

Cofnodion:

 

“A all yr Aelod Cabinet roi datganiad ar brynu hen siop Wilko's ym Mharc y Brodyr Llwyd yng Nghaerfyrddin. Mae miliynau yn mynd i gael eu gwario ar siop Debenhams yn y flwyddyn ariannol nesaf, ond does gennych chi ddim arian i'w fuddsoddi mewn ysgolion yn Rhydaman a Llanelli, na chyllid chwaith ar gyfer theatr y Glowyr yn Rhydaman ac adeiladau eraill sy'n mynd â'u pen iddynt mewn ardaloedd eraill.

 

Rwy'n herio Aelod Cabinet i ddweud beth yw cost prynu'r hen Wilko's i'r trethdalwyr a phwy wnaeth y penderfyniad i brynu'r siop”.

 

Ymateb gan y Cynghorydd Alun Lenny - yr Aelod Cabinet dros Adnoddau

“Mae'n rhaid i mi ddiolch i'r Cynghorydd Madge am ei gwestiwn, Gadeirydd, gan fy mod yn falch iawn ei fod wedi rhoi'r cyfle i mi gywiro un neu ddau o'r camsyniadau - gan ddechrau gyda'r rhagymadrodd eithafeang yn ei gwestiwn.

 

A bod yn onest, mae ceisio gwneud cysylltiad rhwng adfywio hen siop Debenhams a buddsoddi mewn ysgolion naill ai'n ymgais i greu drygioni gwleidyddol, neu'n dangos diffyg dealltwriaeth syfrdanol o fuddsoddi cyfalaf sylfaenol. Byddaf yn hael ac yn dweud mai'r cyntaf ydyw.

 

Nid yw'n wir Gadeirydd - i ddyfynnu'r Cynghorydd Madge - 'nad oes gennym arian i'w fuddsoddi mewn ysgolion yn Rhydaman a Llanelli'. Mae cronfa sylweddol o arian yn y Rhaglen Moderneiddio Addysg, fel y gwyddoch. Mae'n fater o'i wario'n ddoeth yn wyneb costau adeiladu cynyddol remp. Ond ni chaf fy nhynnu i'r ddadl honno ymhellach ar hyn o bryd. Mae hynny'n fater i'r dyfodol.

 

Gan droi at y mater o brynu hen siop Wilko, sef testun y cwestiwn hwn, oherwydd adroddwyd bod y Cynghorydd Madge yn 'grac iawn' am y mater mewn un papur lleol. Roedd siop Wilko yng Nghaerfyrddin ymhlith y 400 o siopau a gaeodd yr hydref diwethaf ar ôl i'r cwmni, a sefydlwyd ym 1930, fel nifer o'r prif siopau cadwyn ar y stryd fawr, fynd i ddwylo'r gweinyddwyr oherwydd materion ariannol a chyflenwi.

 

Pan ddaeth yr adeilad ar y farchnad, cafodd y mater o brynu'r adeilad ei drafod yn helaeth gan y Cabinet a'r Swyddogion Adfywio. Roedd nifer o bethau o blaid ei brynu, Gadeirydd. Rydym eisoes yn berchen ar y maes parcio, sydd â lle i 250 o geir. Mae'r adeilad mewn safle gwych yng nghanol tref Caerfyrddin ac roeddem yn awyddus i beidio â'i weld yn cael ei adael yn wag.

 

Ni allaf ddatgelu'r pris prynu ar hyn o bryd am resymau masnachol gyfrinachol. Fel cyn-arweinydd y Cyngor, mae'n si?r y dylai'r Cynghorydd Madge wybod hynny. Y cyfan y gallaf ei ddweud wrtho yw y byddai ysgol newydd yn costio llawer, llawer mwy na'r hyn a dalwyd am siop Wilko - a gafodd gymorth grant sylweddol hefyd gyda llaw. 

 

Yn wahanol i'r enghreifftiau eraill y mae'n eu rhoi yn ei gwestiwn, mae hon yn fenter Buddsoddi i Arbed. Bydd y cyngor yn ei roi ar osod i denantiaid, a fydd yn talu rhent blynyddol i ni, a fydd yn dod ag incwm i ni. Mae hefyd yn golygu y gall y cyngor ddewis pa fath o fusnes yr hoffem ni yno. Rydym eisoes yn cael trafodaethau gyda phartïon adwerthu sydd â diddordeb, ac rwy'n hyderus y gallwn, maes o law, gyhoeddi pwy ydyn nhw a faint o swyddi y byddant yn eu creu, a fydd er budd pawb o fewn pellter cymudo i'n tref sirol.

 

Cwestiwn Atodol gan y Cynghorydd Kevin Madge

"Cynigwyd siop Poundstretcher yn Rhydaman i chi am swm chwe ffigur. Byddwch yn gwneud hyn yng Nghaerfyrddin ond o ran Dyffryn Amman, pan gewch gynnig adeilad rydym eisiau ei adfywio, rydych yn gwrthod ei brynu. Felly, y cwestiwn yw "Pam ydych chi'n trin un ardal yn wahanol i'r llall"?

 

Ymateb gan y Cynghorydd Alun Lenny - yr Aelod Cabinet dros Adnoddau

"Fel y gwyddoch, mae yna brif gynllun ar gyfer Rhydaman. Mae trafodaethau ar y gweill nawr ac mae astudiaethau dichonoldeb yn cael eu cynnal. Bydd dau ddatblygiad yn cael eu cyhoeddi maes o law. Fel y gwyddoch hefyd, mae arian Ffyniant Bro wedi cael ei ddefnyddio ar wella golwg y stryd yn sylweddol yn y Dref. Nid mater o drin un dref yn wahanol i'r llall yw hyn o gwbl.