Cofnodion:
3.1 PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu'r ceisiadau cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-
PL/06515 |
Datblygiad Preswyl Arfaethedig (Anheddau Fforddiadwy), Ffordd Fynediad a Seilwaith Cysylltiedig, tir oddi ar Dol y Dderwen, Rhydaman, SA18 2GA
(SYLWER: Datganodd y Cynghorydd S.M. Allen, wrth ystyried yr eitem hon, ei bod yn aelod gwirfoddol o Fwrdd yr ymgeisydd a gadawodd y cyfarfod yn brydlon heb gymryd rhan yn y drafodaeth na'r penderfyniad). |
PL/06840 |
Mynediad newydd i'r goedwig o'r briffordd gyfagos, Coedwig Cefn Ystrad Ffin, Rhandirmwyn |
PL/07482 |
Codi llinell y to 1.2m ac ychwanegu 2 ffenestr ar y llawr cyntaf. Ychwanegu drws allanol a ffenestr i'r llawr gwaelod ar yr ochr ddeheuol. Gosod ffenestri a drysau UPVC newydd, bwthyn y tu ôl i'r Lamb Inn, Llanboidy, Hendy-gwyn ar Daf, SA34 0EL
(SYLWER: Gan fod y Cynghorydd D. Phillips wedi datgan diddordeb yn y cais hwn yn gynharach, gadawodd y cyfarfod ac ni chymerodd ran yn y penderfyniad ynghylch yr eitem). |
PL/07904 |
Amrywio Amod 1 ar gais PL/04555 (Newid defnydd dros dro (24 mis) o uned adwerthu wag (dosbarth A1) i ddepo cerbydau gyda swyddfeydd a lleoedd parcio cysylltiedig), 24A Heol Stanllyd, Cross Hands, Llanelli, SA14 6RB |
3.2 PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais cynllunio canlynol er mwyn i'r Pwyllgor ymweld â'r safle:
PL/02167 |
Adeiladu a gweithredu cyfleuster ailgylchu gwastraff anadweithiol, prosesu gwastraff a gwaith cysylltiedig gan gynnwys adeiladu bwnd sgrinio, Chwarel Cilyrychen, Llandybïe, Rhydaman, SA18 3JE
Cafwyd sylwadau yn gwrthwynebu'r cais a ailbwysleisiai’r pwyntiau gwrthwynebu yn adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd, a oedd yn cynnwys y canlynol:
· Effaith traffig lorïau ychwanegol i'r safle ac oddi yno ar y rhwydwaith priffyrdd lleol a chymunedau o ran s?n, llwch, llygredd aer, mwd ar y briffordd a gollwng deunydd o lwythi wedi'u diogelu'n amhriodol · Mae'r ysgol leol yn Llandybïe wedi'i lleoli 100m o'r A483 drwy Landybïe ac mae croesfan yr ysgol mewn man cul · Diffyg llwybr cyhoeddus ar y naill ochr a'r llall i'r A483 o ymyl y pentref i'r ffordd fynediad i Gilyrychen · Nid oedd yr ymgeisydd wedi cynnal arolwg traffig na monitro llygredd · Yn seiliedig ar lefelau traffig pan oedd y chwarel yn weithredol, roedd tua 70 o lorïau sgipiau yn cyrraedd yn llawn ac yn gadael yn wag bob dydd, ynghyd â 70 o lorïau codi a oedd yn cyrraedd yn wag ac yn gadael yn llawn, sy'n cyfateb i symudiad gan gerbyd nwyddau trwm bob 2 funud · Effaith y cynnig ar y fflora a'r ffawna yn y chwarel · Effaith ar y tirlyn gerllaw (yr unig un a nodwyd yn y DU) a'r llyn oligotroffig yn y chwarel · Mae'r cynnig yn gwrthdaro â TAN 21 lle mae'n nodi y "dylai awdurdodau ystyried lleoliadau addas ar gyfer 'chwareli trefol’. Dadleuwyd nad oedd Cilyrychen yn un o'r lleoliadau hynny. · Ystyrid, unwaith y byddai'r holl agregau eilaidd presennol ar y safle wedi'u cynaeafu, y byddai'n rhaid i'r holl ddeunydd a brosesir ar y safle i'w ailgylchu yn y dyfodol gael ei fewnforio a'i drin gan y gwasgydd symudol. Gofynnwyd pam na ellid mynd â'r gwasgydd hwnnw i ffynhonnell y deunydd.
Ymatebodd asiant yr ymgeisydd a'r Uwch-swyddog Cynllunio Mwynau a Gwastraff i'r materion a godwyd.
RHESWM: Galluogi'r Pwyllgor i weld y safle ac asesu ei effaith ar yr amgylcheddau lleol. |
3.3 PENDERFYNWYD caniatáu'r cais cynllunio canlynol yn groes i argymhelliad y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd ar y sail bod y Pwyllgor o'r farn bod y cynnig yn cydymffurfio â darpariaethau TAN 6, yn arbennig paragraffau 2.1.1, 2.2.2, 2.2.4 a 3.14. Rhoddwyd y caniatâd ar yr amod bod yr ymgeisydd yn ymrwymo i Gytundeb Adran 106 sy'n cysylltu'r eiddo â'r fenter wledig.:-
PL/06346 |
Amrywio Amod 2 (cynlluniau cymeradwy) caniatâd cynllunio E/39636 i ganiatáu newid dyluniad yr annedd amaethyddol a gymeradwywyd yn flaenorol o dan E/39636 – Annedd Amaethyddol a Gwaith Cysylltiedig, Brynawelon, Llanfynydd, Caerfyrddin, SA32 7TG
|
Dogfennau ategol: