Cofnodion:
Yn unol â hynny, er mwyn cyrraedd y targed disgwyliedig o 80% erbyn 2030, mynd i'r afael â materion halogi a darparu gwasanaeth cost-effeithiol, roedd yn ofynnol i'r Cyngor roi ail gam ei Strategaeth Wastraff ar waith a fyddai'n cyflwyno system gasglu newydd i gynyddu cyfraddau ailgylchu, lleihau gwastraff, a chyd-fynd ag amcanion Llywodraeth Cymru.
Rhoddwyd ystyriaeth i'r rhesymeg a chyfres o opsiynau y manylwyd arnynt yn yr adroddiad.
Cafwyd y sylwadau a'r ymholiadau canlynol mewn perthynas â'r adroddiad:-
- Roedd trafodaethau parhaus yn cael eu cynnal gydag Asiantaeth Cefnffyrdd De Cymru i ddarparu gwelliannau diogelwch ar unwaith ar hyd yr A48 o ran mynediad ac allanfa safle ailgylchu Nant-y-caws.
- Nid oedd y cynnig hwn yn effeithio ar y safleoedd Ailgylchu Gwastraff y Cartref.
- Ar ôl cwblhau Cam 1, roedd llawer wedi'i ddysgu o ran gweithredu, cynllunio a chyflawni. Cydnabuwyd bod heriau o ran y bocsys casglu gwydr, felly byddai’n allweddol cynllunio darpariaeth y cynwysyddion newydd. Lluniwyd adroddiad llawn ar y gwersi a ddysgwyd ar y cyd â'r tîm Trawsnewid a oedd yn amlinellu beth oedd yr heriau a sut i'w goresgyn yn y dyfodol. Yn ogystal, roedd y gefnogaeth gan WRAP Cymru yn amhrisiadwy o ran gweithredu, rhoi'r criwiau ar waith a'r ddarpariaeth.
- Roedd cofrestr risg ariannol fanwl ar waith a oedd yn cael ei monitro'n barhaus. Byddai unrhyw gynnydd mewn costau yn cael ei gyfathrebu yn unol â hynny.
- O ran wythnos waith 4 diwrnod, eglurwyd bod achos busnes yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd yn y Gwasanaeth Gwastraff ar gyfer y patrwm gwaith newydd.
Gwahoddwyd cynrychiolydd o WRAP Cymru i annerch y Pwyllgor. Mae WRAP Cymru wedi cefnogi nifer o gynghorau ledled Cymru yn ystod y broses o drosglwyddo i fethodoleg casglu glasbrint lle mae ailgylchu'n cael ei gasglu mewn cynwysyddion ar wahân ar gerbydau. O ran halogiad, roedd y criwiau'n gallu adnabod deunyddiau anaddas yn hawdd gan leihau'r risg o halogiad. Pe bai problem, byddai criwiau yn rheoli'r mater trwy adael y cynhwysydd a rhoi gwybod i ddeiliad y t? am y rheswm. Rhoddwyd gwybod i'r Aelodau fod Cyngor Sir Conwy wedi cyflwyno'r casgliad 4 bag du wythnosol 3-4 blynedd yn ôl a’i fod wedi gwella'r gyfradd ailgylchu yn sylweddol o 11.5%.
Mewn ymateb i ymholiad, eglurodd Rheolwr y Prosiect Trawsnewid Gwastraff fod canllaw A-Y ar gael ar-lein i helpu, addysgu a hysbysu trigolion gan roi esboniad o'r hyn y gellir ei roi mewn gwahanol gynwysyddion a'r hyn na ellir ei roi. Yn ogystal, mae Ymgynghorwyr Ailgylchu Cymunedol, fel rhan o'r broses addysg a gorfodi, yn mynd ati i ymweld â thrigolion nad oes ganddynt fynediad i'r rhyngrwyd neu sydd angen cymorth ychwanegol.
PENDERFYNWYD:
8.1 i dderbyn y Cynllun Gweithredu Glasbrint;
8.2 argymell i'r Cabinet fod yr argymhellion a ddarperir yn yr adroddiad yn cael eu mabwysiadu.
Dogfennau ategol: