Agenda item

ADRODDIAD PERFFORMIAD CWARTER 4 - 2023/24

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor adroddiad diwedd blwyddyn ynghylch Perfformiad ar gyfer 2023/24 i'w ystyried. Roedd yr adroddiad yn dangos cynnydd y camau a'r mesurau a oedd yn gysylltiedig â'r Strategaeth Gorfforaethol ar ddiwedd 2023/24 a'r Amcanion Llesiant a oedd o fewn maes gorchwyl y Pwyllgor Craffu.

 

Rhoddwyd sylw i'r sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

  • Cyfeiriwyd at dudalen 3 yr adroddiad  Mewn ymateb i ymholiad ynghylch cwynion cam 2, eglurodd y Rheolwr Gwella Busnes, er bod yr adran yn ymdrechu i ddatrys materion o fewn y targed o 21 diwrnod, roedd natur rhai achosion yn gymhleth ac roedd angen amser ychwanegol i ymchwilio/datrys.

 

  • Cyfeiriwyd at y cynllun rheoli perygl llifogydd ar dudalen 6 yr adroddiad, a gofynnwyd am y diweddaraf o ran cynnydd. Eglurodd y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd fod y cynllun wedi'i ddatblygu a'i fod yn cael ei gwblhau ar hyn o bryd.

 

  • Gan gyfeirio at y camau yn ymwneud â'r argymhellion ynghylch tipio anghyfreithlon a oedd yn deillio o’r adolygiad gorchwyl a gorffen ar dudalen 6 yr adroddiad, eglurodd y Pennaeth Seilwaith Amgylcheddol fod nifer o'r argymhellion wedi'u cyflawni, fodd bynnag, roedd gwaith yn parhau ar ddatblygu'r Strategaeth Tipio Anghyfreithlon gyda'r bwriad i’w chwblhau ddiwedd mis Mawrth 2025.  Nodwyd bod gostyngiad sylweddol wedi bod mewn tipio anghyfreithlon dros y 12 mis diwethaf ers cwblhau'r camau.   Yn ogystal, bu cynnydd ar gyfryngau cymdeithasol ynghylch tipio anghyfreithlon yn ogystal ag adrodd am yr Hysbysiadau Cosb Benodedig a'r llwyddiannau yn dilyn camau gorfodi.  Roedd trafodaethau'n cael eu cynnal gyda'r adran Cymunedau mewn perthynas â'r un pwynt cyswllt/tîm ar gyfer tipio anghyfreithlon gan ystyried yr adnoddau a'r goblygiadau staffio.  Ar ben hynny, roedd gwaith yn mynd rhagddo wrth ystyried un platfform i'r cyhoedd adrodd am dipio anghyfreithlon.

 

  • Gofynnwyd am ddiweddariad mewn perthynas â gweithredu ar ddatblygu Strategaeth Trafnidiaeth Gymunedol, tudalen 9 yr adroddiad.  Eglurodd y Pennaeth Seilwaith Amgylcheddol fod gwaith yn mynd rhagddo o ran datblygu'r strategaeth a'i fod ar hyn o bryd yn aros am ganlyniadau'r ymgynghoriad cyhoeddus ar y Strategaeth Drafnidiaeth Ranbarthol. Byddai goblygiadau'r Strategaeth Drafnidiaeth Ranbarthol yn cael effaith ar y Strategaeth Drafnidiaeth Gymunedol.  Rhoddwyd gwybod i'r Aelodau y byddai Cyngor Sir Caerfyrddin yn cynnal ymarfer ymgysylltu â'r cyhoedd ym mis Medi / Hydref eleni i helpu i lywio a mireinio'r Strategaeth Drafnidiaeth Gymunedol.

 

  • Mewn ymateb i ymholiad ynghylch llwybr Beicio Dyffryn Tywi, rhoddodd y Pennaeth Seilwaith Amgylcheddol ddiweddariad i'r pwyllgor yn nodi bod yr ymchwiliad cyhoeddus wedi’i gynnal gan ddod i'r casgliad bod y Gorchmynion Prynu Gorfodol yn gallu bwrw ymlaen.  Rhoddwyd sicrwydd bod y cyllid yn ddiogel.

 

  • Cyfeiriwyd at y % yr ailgylchu sydd wedi'i halogi a welwyd ar dudalen 8 yr adroddiad.  Mynegwyd pryder bod canran fawr o'r ailgylchu a wnaed yn parhau i fod wedi'i halogi.  Dywedodd Rheolwr y Prosiect Trawsnewid Gwastraff fod proses gorfodaeth addysg ar waith yn y gwasanaeth oedd yn cael ei rheoli gan y criwiau gweithredol.  Byddai Hysbysiadau Cosb Benodedig yn cael eu rhoi yn dilyn proses o 3 cham addysg.  Mynegwyd pryder mewn perthynas â'r diffyg rheoli gwastraff mewn llety rhent a oedd yn achosi gwastraff annymunol a chynnydd mewn problemau llygod mawr, pwysleisiwyd bod angen rhoi ystyriaeth i wastraff mewn perthynas â chytundebau rhent.

 

  • Cyfeiriwyd at y cam gweithredu canlynol ar dudalen 11 yr adroddiad.  - Gweithio gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau bod seilwaith trydan ar waith i'n galluogi i ddatblygu prosiectau ynni adnewyddadwy uchelgeisiol i gyrraedd sero net, Wrth gydnabod ei fod yn cyrraedd y targed, gofynnwyd a oedd cynnydd parhaus ar y cam gweithredu hwn?  Yn ogystal, gofynnwyd a yw'r newid o ran AS yn helpu gyda'r heriau sy'n wynebu adeiladu ynni adnewyddadwy?  Nododd y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd fod mynediad i'r grid, yn enwedig ar hyd coridor De Cymru yn gyfyngedig.  Roedd gwaith wedi bod yn digwydd gyda gwasanaeth ynni Llywodraeth Cymru a'r gwaith gwella yr oeddent yn ei wneud i’r grid.  Roedd cydweithwyr yn gweithio ar gynigion allweddol ar draws yr Awdurdod a Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru i ddatblygu'r Cynllun Asedau Strategol ar gyfer Cymru Gyfan a fyddai'n bwydo i mewn i Gynllun Asedau y DU.

 

Gofynnwyd cwestiwn ychwanegol ynghylch argaeledd grantiau i fusnesau yn Sir Gaerfyrddin i ddatblygu effeithlonrwydd ynni mewn ynni adnewyddadwy?  Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd y byddai'n gwneud ymholiadau i ddarganfod mwy a phetai arian ar gael, byddai'n cael ei hyrwyddo i sicrhau y gallai busnesau fanteisio ar y grantiau sydd ar gael.

 

  • Cyfeiriwyd at nifer y beicwyr modur sy'n cael eu lladd a'u hanafu'n ddifrifol ar ffyrdd a nifer y bobl ifanc sy'n cael eu lladd a'u hanafu'n ddifrifol ar ffyrdd, tudalen 20 yr adroddiad.  Mynegwyd pryder am y cynnydd yn y canrannau, gofynnwyd beth oedd yn cael ei wneud i wella hyn?  Dywedodd y Pennaeth Seilwaith Amgylcheddol, gan nad oedd ganddo'r wybodaeth berthnasol wrth law ac nid oedd am ddyfalu ar fater mor bwysig, y byddai'n dosbarthu'r wybodaeth i aelodau drwy e-bost.

 

PENDERFYNWYD derbyn Adroddiad Perfformiad diwedd blwyddyn 2023/24.

 

 

Dogfennau ategol: