Agenda item

RHAGLEN DRAWSNEWID - ADRODDIAD CYNNYDD

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i adroddiad a oedd yn adolygu ymagwedd yr Awdurdod at drawsnewid a sicrhau bod y rhaglen yn cyd-fynd yn llawn â nodau ac amcanion y Strategaeth Gorfforaethol newydd.  Cafodd y Strategaeth Drawsnewid ei hadrodd i'r Cabinet ym mis Chwefror 2023.  Dyma'r 8 blaenoriaeth thematig sydd wedi'u cynnwys yn y Strategaeth Drawsnewid:

 

·       Arbedion a Gwerth am Arian

·       Incwm a Masnacheiddio 

·       Dylunio a Gwella Gwasanaethau 

·       Y Gweithlu

·       Y Gweithle

·       Cwsmeriaid a Digidol

·       Datgarboneiddio 

·       Ysgolion

 

Roedd y canlynol ymhlith y materion a godwyd ynghylch yr adroddiad:

 

·         Cyfeiriwyd at Arbedion Effeithlonrwydd a Gwerth am Arian.  Gofynnwyd am ddiweddariad ar y darn o waith gyda'r gwasanaethau Gofal Preswyl i adolygu gwariant asiantaethau?  Eglurodd Rheolwr Rhaglen TIC mai prosiect dan arweiniad un o Arweinwyr y Dyfodol oedd hwn fel rhan o raglen ddatblygu.  Yn dilyn yr ymchwil gychwynnol, cychwynnodd peilot ddechrau Ebrill 2024 ar gartrefi preswyl yn ardal Llanelli.  Adroddwyd bod y peilot yn mynd yn dda, ac roeddid yn rhagweld erbyn diwedd mis Mehefin byddai arbediad o 400 awr a fyddai wedi cael eu defnyddio gan asiantaeth.  Manteision hyn oedd rhai arbedion ariannol ond y fantais fwyaf fyddai parhad a gwytnwch y gweithlu.

 

·         O ran y Strategaeth Fasnacheiddio, gofynnwyd sut y byddai'n cael ei chyflwyno?  Eglurodd Rheolwr Rhaglen TIC fod y trefniadau llywodraethu yn cael eu ffurfioli ar hyn o bryd.

 

·         Cyfeiriwyd at y System / Broses Ymholiadau gan Aelodau.  Dywedwyd, o brofiad personol, ei bod wedi bod yn anodd ac yn heriol defnyddio'r Hwb ers iddo fynd yn fyw, ac felly nid oedd opsiwn arall heblaw mynd yn ôl i'r hen arfer o e-bostio'r Uned Gwasanaethau Democrataidd. Roedd adborth gan Aelodau eraill wedi bod yn go debyg o ran rhoi gwybod am orfodi rheolau cynllunio. Dywedodd y Prif Swyddog Digidol fod yr adborth yn bwysig a byddai'n cael ei ystyried gyda thrafodaeth bellach y tu allan i'r Pwyllgor i weithio ar wella'r system.

 

·         Gofynnwyd cwestiwn cyffredinol yngl?n â sut roedd y gwaith o ran Ysgolion yn datblygu.  Eglurodd Rheolwr Rhaglen TIC fod y gwaith dros y 12 mis diwethaf wedi canolbwyntio ar gynnal trafodaethau manwl gydag ysgolion er mwyn canfod meysydd megis heriau cyllidebol, gan nodi arbedion cost posibl o ran cymorth cefn swyddfa gan gynnwys meysydd caffael. Nodwyd ei fod yn ddarn pwysig o waith wrth i fwy a mwy o ysgolion fynd i ddiffyg ariannol.  Mae darparu data a systemau meincnodi yn galluogi'r tîm i gefnogi'r ysgolion i wneud arbedion effeithlonrwydd a gallu ymgymryd â'r un gwasanaethau o safon ar yr un pryd.

 

Mynegwyd pryder ynghylch y cynnydd yn nifer y plant â Chynllun Datblygu Unigol ac ynghylch y lleihad yn y cyllid i gefnogi'r maes hwn, gofynnwyd a oedd hwn yn faes y gellid canolbwyntio arno?  Dywedodd Rheolwr Rhaglen TIC fod hwnnw'n awgrym amserol gan ei fod i fod i fynychu cyfarfod am y blaenoriaethau ar gyfer ffrydiau gwaith yr ysgolion ar gyfer y flwyddyn nesaf, a'r bwriad oedd trafod cynnwys hyn yng nghylch gwaith y ffrwd waith. Ychwanegodd y Pennaeth Cyllid ei fod yn aelod o'r Fforwm Cyllideb Ysgolion ac roedd y mater hwn ar yr agenda ym mhob cyfarfod, ac roedd hefyd yn mynychu gweithdy ar gyllid ADY.  Rhoddwyd sicrwydd i'r aelodau bod trafodaethau i fod i ddigwydd i ganfod y ffordd fwyaf teg o ddosbarthu arian o amgylch y system er mwyn cefnogi'r anghenion yn y modd gorau.

 

·         Gofynnwyd a oedd dull ar waith i alluogi staff i ddarparu syniadau ac awgrymiadau?  Dywedodd Rheolwr Rhaglen TIC fod hwn yn faes oedd yn cael ei ystyried yn ystod y flwyddyn hon.  Mae sioeau teithiol corfforaethol wedi'u cynnal ar draws y gwasanaethau rheng flaen, canolfannau hamdden a chartrefi gofal dros y flwyddyn ddiwethaf, lle roedd staff yn cael eu hannog i gyflwyno syniadau. Ar ben hynny, roedd trafodaethau'n cael eu cynnal gydag Undebau ar y ffordd orau o ymgysylltu â gwasanaethau rheng flaen ac Undebau.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad. 

 

 

Dogfennau ategol: